MANYLION
- Lleoliad: Glynllifon,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £19.95 - £21.29 yr awr, gan gynnwys tâl gwyliau
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol Peirianneg Amaethyddol
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £19.95 - £21.29 yr awr, gan gynnwys tâl gwyliau
Mae'r adran Peirianneg Amaethyddol ag Amaeth wedi ei leoli ar safle Glynllifon. Mae myfyrwyr yn astudio cyrsiau llawn amser lefel 2 a 3 ac yn datblygu i waith, prentisiaeth neu brifysgol. Bydd myfyrwyr yn mynd ymlaen i'r byd gwaith trwy weithio i cyflogwyr sydd yn cynnig gwasaneuthau Amaethyddol ee. gweithiwr fferm, cynnal a chadw peiriannau a'r ffermydd neu trwy gontractio. Bydd rhai myfyrwyr yn mynd i ffermydd teuluol i weithio.Gydag arweiniad, fe fydd y Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol yn gweithio i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau y myfyrwyr trwy gynllunio gweithgareddau ymarferol. Mae'r tasgau hyn yn dilyn cynllun gwaith sy'n datblygu yn ystod y tymor i sefydlu cymhwysedd myfyrwyr fel eu bod yn cyrraedd gofynion y cwrs.
Dyma esiampl o'r gweithgareddau sydd yn cael eu cyflawni gan myfyrwyr:
- Gyru peiriannau fferm (tractor/Telehandler)
- Gweithio gyda da byw - dosio, pwyso, didoli, wynau, lloi.
- Cynnal a chadw offer fferm - Tractor, telehandler, byrnwr crwn, chwalwr tail, taenwr gwrtaith
- Gwaith cynnal a chadw stad - ffensio, walio, gosod giatiau.
Bydd gofyn i'r Goruchwylydd Sgiliau Ymarferol gyfranu at ystod o'r gweithgareddau yma yn ddibynol ar arbenigedd a ffrofiad.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/086/24
Cyflog
£19.95 - £21.29 yr awr, gan gynnwys tâl gwyliau
Lleoliad Gwaith
- Glynllifon
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau â thâl pro rata ym mhob blwyddyn academaidd (1 Medi i 31 Awst), sy'n cynnwys hawl pro-rata i 8 Gŵyl Banc a Gwyliau Cyhoeddus a welir fel arfer yng Nghymru a hawl pro-rata o hyd at 5 o wyliau effeithlonrwydd (sylwer y gall hyn newid yn flynyddol). Mae gwyliau blynyddol yn deillio o hawl pro rata cyfwerth ag amser llawn o 46 diwrnod sydd wedi'i gynnwys yn y gyfradd fesul awr a delir.
Patrwm gweithio
7.5 awr yr wythnos. Patrwm gwaith i'w gytuno yn ddibynnol ar argaeledd am 34 wythnos y flwyddyn (yn ystod tymor y coleg)
Bydd canran ychwanegol o 10% yn cael ei gymhwyso i'r oriau cytundebol a weithiwyd i adlewyrchu paratoi a marcio.
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
18 Rhag 2024
12:00 YH(Ganol dydd)