MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (dros gyfnod mamolaeth)18
18 awr yr wythnos
Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher, rhwng 8.45am a 3.15pm
Yn ystod y tymor yn unig
Gradd 3 - £24,027 am 18 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig yn seiliedig ar 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £10,267.50 pro rata yn codi i 46.8 wythnos, £10,491.68 pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
Rydym yn chwilio am unigolion cadarn ond teg, deinamig, uchelgeisiol, gofalgar a brwdfrydig i weithio gyda'n disgyblion sydd ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm ac wedi'ch lleoli, yn bennaf, o fewn un o'n lleoliadau dysgu arbenigol.
Bydd y rolau hyn yn gofyn i chi weithio naill ai yn y ganolfan dysgu arbennig, Canolfan Phoenix neu ardaloedd canolfan adnoddau dysgu'r ysgol.
Mae Ysgol Harri Tudur / Henry Tudor School yn ysgol gyffrous a chroesawgar i weithio ynddi. Mae ein hysgol yn parhau ar ei thaith gwelliant cyflym er mwyn ceisio rhagoriaeth, yn dilyn ein hadroddiad cadarnhaol gan Estyn ym mis Ionawr 2022.
Ar gyfer ymweliadau anffurfiol â'r ysgol, cysylltwch â Rheolwr Busnes yr ysgol, Mr Nick Makin.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch âr Pennaeth Cynorthwyol, Mrs Ann Andrews.
Anfonwch neges e-bost at contact@yht.wales neu ffoniwch 01646 682461
Ewch i'n gwefan www.yht.wales
Mae'n ddrwg gennym na fydd modd inni roi adborth i ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddiannus.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.