MANYLION
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £10,953 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg - Melin Ifan Ddu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £10,953 y flwyddyn
Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg - Melin Ifan DduDisgrifiad swydd 18.5 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2025
Amser tymor
Yn ystod tymor yr ysgol
Un o fentrau Llywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg, sy'n ceisio targedu cymorth i blant cyn oed ysgol a'u teuluoedd mewn ardaloedd penodol, ac i gyflawni deilliannau penodol i blant. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i ofal plant o safon i blant a nodwyd fel rhan o ddull amlasiantaethol.
Gan weithio yn y lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg byddwch yn gweithio gyda phlant 2-3 oed, gan eu helpu i ddatblygu, dysgu a chwarae, gan ddarparu safon uchel o ofal corfforol, emosiynol, cymdeithasol a deallusol i blant Dechrau'n Deg.
O fewn y tîm gofal plant byddwch yn cysylltu'n rheolaidd ag aelodau amrywiol o'r tîm amlasiantaethol yn Dechrau'n Deg, gan gynnwys yr Athro Ymgynghorol Dechrau'n Deg, Seicoleg Addysgol, Therapyddion Lleferydd ac Iaith ac Ymwelwyr Iechyd. Yn y rôl hon bydd yn ofynnol i chi feddu ar brofiad o weithio mewn lleoliadau gofal plant a dealltwriaeth effeithiol o ddatblygiad plant
Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio ar draws y rhaglen Dechrau'n Deg.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Rhagfyr 2024
Dyddiad llunio rhestr fer: 12 Rhagfyr 2024
Dyddiad Cyfweld: 18 Rhagfyr 2024 Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person