MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,304 - £49,934
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Ionawr, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £32,304 - £49,934
Disgrifiad SwyddColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Swyddog Hyfforddiant Technegol - Awyrennau
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn amser, Cyfnod Penodol (Rhagfyr 2025)
Cyflog: £32,304 - £49,934 (Mae pwyntiau UP2 ac UP3 yr uwch raddfa gyflog yn amodol ar dystiolaeth o gynnydd blaenorol i'r raddfa dâl uwch)
A oes gennych chi unrhyw brofiad yn y Sector Awyrofod sydd ag enw da am ansawdd a rhagoriaeth ac yn chwilio am her newydd?
Dechreuwch eich taith i addysg heddiw.
Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi sgiliau peirianneg ond nad oes gennych chi brofiad addysgu, gadewch i ni eich cynorthwyo chi i ennill y cymwysterau addysgu angenrheidiol wrth rannu eich gwybodaeth a'ch profiad.
Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag Swyddog Hyfforddiant Technegol Awyrofod Llawn Amser ar ein safle Glannau Dyfrdwy. Prif ddiben y swydd yw cyflwyno sesiynau ymarferol yn ein gweithdai hyfforddiant, a fydd yn cynnwys: ymgymryd â gweithgareddau ffitio awyrennau manwl, gosod ffasnyddion mecanyddol (Rhybedion, bolltau a dulliau cloi), drilio deunydd croen ysgafn a chroen trwm, cynnal a chadw sylfaenol awyrennau a thynnu ac ail-osod cydrannau. Yn y swydd hon byddwch chi'n addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu a goruchwylio arholiadau yn ôl y gofyn. Yn ogystal â hyn bydd darparu arweiniad addysgol, cymorth a chwnsela i bob myfyriwr yn rhan fawr o'ch swydd gan eich galluogi chi i effeithio'n gadarnhaol ar eu taith fel myfyrwyr.
Byddem ni wrth ein bodd yn clywed yn arbennig gan unrhyw un sydd â phrofiad o Systemau Trydanol a Systemau Awyrennau ac sy'n gobeithio symud oddi wrth y diwydiant a dechrau her gyrfa newydd.
Gofynion Hanfodol
- Bod â chymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
- Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu
- Gallu asesu canlyniadau dysgu a chyflawniadau dysgwyr
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai