MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Soulbury A Scale 2-7 - £44,474 - £54,609 Plus 3 SPA
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Soulbury A Scale 2-7 - £44,474 - £54,609 Plus 3 SPA
Cyflog (£44,474 - £54,609) Graddfa A Soulbury 2-7 a 3 phwynt SPA(Bydd Cyngor Sir Penfro yn anrhydeddu cyflog cychwynnol ar Raddfa 3)
Rydym am benodi seicolegydd addysg llawn amser parhaol i ddechrau ym mis Medi 2025.
Mae Sir Benfro yn un o lefydd arbennig Prydain, sy'n cyfuno rhai o'r golygfeydd arfordirol mwyaf trawiadol gyda threftadaeth ddiwylliannol unigryw. Mae bron i draean o'r sir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro - yr unig barc cenedlaethol arfordirol yn y wlad ac mae ei thraethau niferus yn enwog fel rhai ymhlith y gorau yn unrhyw le. Mae hyn i gyd yn ei gwneud yn ardal hynod ddeniadol a boddhaol i fyw a gweithio ynddi.
Mae tîm Seicoleg Addysgol Sir Benfro yn ymwneud â datblygiad, dysgu, cyflawniad a llesiant plant a phobl ifanc. Mae aelodau'r tîm yn gweithio gyda phobl ifanc, staff lleoliadau cyn-ysgol ac ysgolion, a chyda rhieni/gofalwyr a chydweithwyr proffesiynol i geisio sicrhau newid cadarnhaol i blant a phobl ifanc.
Rydym yn rhan o'r gwasanaeth cynhwysiant sy'n gweithio'n agos gydag athrawon ymgynghorol, y gwasanaeth cymorth ymddygiad, y gwasanaeth allgymorth ar gyfer anhwylderau yn y sbectrwm awtistig, y tîm anableddau plant a chydweithwyr ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc ledled Sir Benfro.
Byddem yn croesawu mynegiadau o ddiddordeb gan seicolegwyr addysg profiadol yn ogystal â'r rhai sydd ar fin cwblhau eu hyfforddiant sydd ar hyn o bryd ym Mlwyddyn 2 neu Flwyddyn 3 o'r rhaglen DEdPsy (Doethuriaeth) (dyddiad dechrau ymgeisydd llwyddiannus ym Mlwyddyn 2 fydd mis Medi 2026). Mae hyblygrwydd hefyd i ystyried ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gweithio'n rhan-amser. Rydym yn hapus i drafod unrhyw arbenigeddau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Dr Lorraine Silver (Prif Seicolegydd Addysgol) ar 01437 776042 neu anfonwch neges e-bost at lorraine.silver@pembrokeshire.gov.uk
Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gymwysterau proffesiynol ac wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Mae angen gwiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: xxxxxxxx
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: https://www.sir-benfro.gov.uk/swyddi-cymdeithasol-gofal-cyfredol-gwag
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.