MANYLION
  • Lleoliad: Cross College,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £34,755.00 - £37,056.00 (Pro-rata CALl)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Cymorth Trefniadau Mynediad

Coleg Y Cymoedd

Cyflog: £34,755.00 - £37,056.00 (Pro-rata CALl)

Cydlynydd Cymorth Trefniadau Mynediad
Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:

 

Bydd deiliad y swydd yn rhan o Dîm Darpariaeth Dysgu Ychwanegol (DDY) y Coleg, yn asesu dysgwyr sy'n gweithio tuag at ganlyniadau mewn cymwysterau amrywiol i bennu trefniadau mynediad at arholiadau. Mae rôl y cydlynydd yn cynnwys cydweithio â staff sy'n cyflwyno'r cwricwlwm a staff cymorth ar draws y coleg i sefydlu 'dull arferol o weithio' i bob dysgwr a sicrhau bod y trefniadau mynediad angenrheidiol ar waith. Hefyd, byddwch yn cysylltu â chydweithwyr i rannu a derbyn gwybodaeth sy'n cefnogi cynnydd y dysgwyr.

 

Gwybodaeth   Bellach:

 

Mae   angen   i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.

 

Ymgymryd   ag   unrhyw ddyletswyddau   rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.

 

Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.

 

Canllawiau Cais:

 

Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.

 

Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law

 

Cyswllt:

 

Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â   people@cymoedd.ac.uk