MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £30,742 - £47,340
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: £30,742 - £47,340
Mae Ysgol Greenhill yn ysgol gyfun i ddisgyblion 11 i 19 oed sy'n gwasanaethu tref gaerog hanesyddol Dinbych-y-pysgod a'r ardaloedd cyfagos. Wedi'i lleoli o fewn ardal hardd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd gofalgar, cynhwysol a chroesawgar lle mae'r disgyblion a'r staff yn falch o'u gwerthoedd a'u hethos cryf.Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn recriwtio ar gyfer athro Cyfrifiadura brwdfrydig i ymuno â'n Maes Dysgu a Phrofiad Cyfrifiadura ffyniannus sy'n tyfu. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig cyfrifiadura yng Nghyfnod Allweddol 3 sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru newydd, technoleg ddigidol a chyfrifiadureg yng Nghyfnod Allweddol 4 a thechnoleg ddigidol, cyfrifiadureg ac astudiaethau busnes yng Nghyfnod Allweddol 5. Rydym hefyd yn addysgu sgiliau ar draws Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5 ar ffurf Bagloriaeth Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael y cyfle i addysgu amrywiaeth o'r pynciau digidol hyn. Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o'r gwaith o gyflwyno rhaglenni newydd mewn maes cwricwlwm hanfodol sy'n tyfu ac y mae galw amdano. Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad hefyd yn falch iawn o fod yn hyrwyddwr ar gyfer her FIRST Tech Challenge ac maent yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol rheolaidd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm cyfrifiadura medrus a gweithgar sy'n gweithredu o fewn diwylliant cefnogol ac anogol. Mae staff ar draws yr ysgol yn rhannu ymrwymiad cryf i'w gwerthoedd a'i dyheadau, a'u huchelgais yw adeiladu ar welliannau diweddar sylweddol yng nghyflawniad myfyrwyr ac ansawdd ehangach yr addysg a ddarparwn.
Mae Ysgol Greenhill yn cynnig profiadau dysgu rhagorol i'n myfyrwyr. Byddem yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n frwdfrydig dros addysgu gwersi difyr a fydd yn helpu myfyrwyr i werthfawrogi pwysigrwydd y pwnc a datblygu'r sgiliau y mae eu hangen arnynt i ddod yn ddinasyddion cyflawn mewn byd modern.
Mae hon yn swydd addysgu amser llawn ac yn gontract penagored. Dyddiad dechrau'r swydd fydd Ionawr 2025 neu'n gynt.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn bodloni'r canlynol:
- Cyflwyno gwersi Cyfrifiadura deniadol a heriol i fyfyrwyr ar draws grwpiau oedran amrywiol, gan sicrhau amgylchedd dysgu sy'n ysgogi dysgwyr.
- Meithrin angerdd am dechnoleg gan ymgorffori dulliau addysgu arloesol a chymwysiadau byd go iawn.
Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a gweithredu cwricwlwm sydd ar flaen y gad. A ydych chi'n ymarferydd ystafell ddosbarth greddfol, hyblyg, sy'n ennyn brwdfrydedd ac sy'n gosod ac yn cadw disgwyliadau uchel?
Byddwch yn ymuno â'n tîm cyfrifiadura brwdfrydig a chydweithredol, gan addysgu ar draws pob cyfnod allweddol (CA3, CA4 a CA5). Mae myfyrwyr yn dilyn manylebau Cyfrifiadureg, Technoleg Ddigidol CBAC, Astudiaethau Busnes CBAC a Bagloriaeth Cymru CBAC.
Mae gan y Maes Dysgu a Phrofiad adnoddau rhagorol: Pum ystafell gyfrifiadura arbennig ym mhrif adeilad yr ysgol, yn ogystal â gofod digidol pwrpasol i'r chweched dosbarth ac ystafell o liniaduron Chromebook.
Mae Ysgol Greenhill yn ysgol dda sydd ag enw da am roi anghenion ein myfyrwyr wrth wraidd yr hyn a wnawn. Mae ein hadroddiad Estyn diweddar yn adlewyrchu'r pwyslais cryf ar ddysgu ac addysgu ac yn adlewyrchu ein hethos cymunedol a gwerthoedd ein hysgol.
Estynnir gwahoddiadau i unrhyw unigolion, boed ar ddechrau eu gyrfa (ANG) neu'n fwy profiadol ac yn chwilio am her newydd mewn amgylchedd ysgogol sy'n rhoi boddhad.
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal âr dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.