MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,559 - £31,586 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Uwch-swyddog Gweinyddol – Ysgol Bryn Castell
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £30,559 - £31,586 y flwyddyn
Uwch-swyddog Gweinyddol - Ysgol Bryn CastellDisgrifiad swydd
37 awr yr wythnos
Mae Llywodraethwyr Ysgol Arbennig Bryn Castell yn dymuno penodi Uwch-swyddog Gweinyddol brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio o fewn y Tîm Gweinyddol ochr yn ochr â staff yr ysgol, i gynorthwyo disgyblion ag Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol ac Awtistiaeth ac Anghenion Dysgu Ychwanegol cysylltiedig yn yr ysgol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymrwymedig i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a bydd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn y tîm prysur hwn i ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddyletswyddau gweinyddol, clercol ac ariannol, gynnwys Adnoddau Dynol ac arholiadau, a chynorthwyo â'r gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau cymorth.
Dylai ymgeiswyr fod yn gymwysedig i NVQ Lefel 3 neu gyfwerth gyda phrofiad o weithredu a goruchwylio systemau gweinyddol ac ariannol, gyda gwybodaeth a dealltwriaeth lawn o godau ymarfer perthnasol, polisïau ac ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth.
Mae'r swydd hon yn swydd amser llawn yn yr ysgol.
gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 28 Tachwedd 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 29 Tachwedd 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 9 Rhagfyr 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person