MANYLION
- Lleoliad: Pibwrlwyd, SA31 2NH
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £23,583 - £25,591 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £23,583 - £25,591 / blwyddyn
Anogwr BugeiliolApplication Deadline: 27 November 2024
Department: Cymorth Dysgu
Employment Type: Contract Cyfnod Penodol
Location: Campws Pibwrlwyd
Reporting To: Pennaeth Cwricwlwm
Compensation: £23,583 - £25,591 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (y Coleg) wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae'r coleg yn dymuno penodi Anogwr Bugeiliol i roi cefnogaeth ac arweiniad i ddysgwyr mewn maes cwricwlwm penodol. Bydd gwaith yr Anogwr Dysgu yn galluogi pobl ifanc i oresgyn rhwystrau i ddysgu yn well a chyflawni canlyniadau dysgwyr llwyddiannus.
Bydd gwaith yr Anogwr Bugeiliol yn ategu rhwydwaith cymorth ehangach y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr o fewn y Coleg a gweithgareddau o fewn Meysydd Cwricwlwm. Bydd y gwaith yn gofyn am lefel uchel o gydweithio â staff eraill ar draws y Coleg. Mae'r rôl yn cynnwys mynd i'r afael â phroblemau a phryderon dysgwyr, hybu diwylliant cadarnhaol a gofalgar, cyflwyno sesiynau datblygiad personol, a gweithio ar y cyd a thîm o Anogwyr Cynnydd i gyflawni dangosyddion perfformiad allweddol blynyddol.
Cyfrifoldebau AllweddolDyletswyddau Cyffredinol/Dyraniad
- Rheoli hyd at 10 grŵp o ddysgwyr.
- Monitro presenoldeb dysgwyr unigol a mynd i'r afael â phroblemau presenoldeb gan ddefnyddio technegau rheoli ymddygiad yn gadarnhaol
- Mynd i'r afael â phroblemau presenoldeb fel y nodir yn y polisi monitro a rheoli presenoldeb
- Cynnal sesiynau tiwtorial grŵp wythnosol awr o hyd wedi'u hamserlennu gyda phob grŵp.
- Ymgymryd ag adolygiadau cynnydd un-i-un gyda dysgwyr unigol a sesiynau gosod targedau unwaith bob hanner tymor;
- Neilltuo amser ar gyfer tasgau gweinyddol, monitro a rheoli presenoldeb, gofal bugeiliol, cyfarfodydd rhieni a chefnogaeth un-i-un.
- Cynnal a chadw dogfennaeth fewnol
- Cwblhau elfen tiwtor bugeiliol adroddiadau interim a chrynodol dysgwyr
- Mynychu a chyfrannu at ddigwyddiadau ymgynghori â rhieni fel anogwr bugeiliol
- Cyfrannu at waith y coleg ar ddiogelu yn unol â'r polisi a phrosesau adrodd
- Mynychu a chymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd mewnol perthnasol megis gwrandawiadau disgyblu, adolygiadau dysgwyr, cyfarfodydd amlddisgyblaethol, cyfarfodydd tîm.
- Datblygu, hwyluso a chyflwyno gweithgareddau pontio gyda'r nod o gefnogi dysgwyr i mewn i'r coleg;
- Cydweithio â holl staff eraill y gyfadran i rannu gwybodaeth berthnasol.
- Cynnal cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda'r holl ddysgwyr a neilltuwyd i chi trwy gydol y flwyddyn academaidd.
- Cysylltu ag arweinydd y rhaglen a defnyddio systemau digidol cwrs i fonitro ac olrhain cynnydd dysgwyr.
- Gosod ac adolygu targedau bob tymor gyda phob dysgwr.
- Nodi a rhoi ymyriadau priodol ar waith a gosod targedau i fynd i'r afael â phresenoldeb gwael
- Cefnogi dysgwyr i osod a chyflawni eu cyrchnodau unigol.
- Cyflwyno sesiynau tiwtorial personol a gynlluniwyd gan y tîm cefnogi dysgwyr canolog.
- Cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y tu hwnt i'w cymwysterau.
- Annog cyfranogiad gweithredol mewn gweithgareddau datblygiad personol a chyfoethogi.
- Cysylltu â'r tîm Byddwch yn Uchelgeisiol i gydlynu rhaglen gyflogadwyedd ar gyfer pob dysgwr
- Hwyluso presenoldeb mewn sesiynau arweiniad gyrfa.
- Cynorthwyo dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â'u llwybrau gyrfa a'u llwybrau dilyniant yn y dyfodol
- Darparu cymorth i ddysgwyr gyda cheisiadau UCAS a cheisiadau mewnol/allanol eraill.
- Cefnogi dysgwyr wrth iddynt bontio i addysg uwch, hyfforddiant pellach, neu gyfleoedd cyflogaeth.
- Cefnogi gweithgareddau a phrosesau Llais y Dysgwr.
- Gweinyddu holiaduron dysgwyr a chyflawni Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) sy'n gysylltiedig â chyfranogiad dysgwyr.
- Annog dysgwyr i gymryd rhan weithredol wrth lunio eu profiad addysgol.
- Hybu ymddygiad cadarnhaol yn unol â gwerthoedd y coleg sef Bod yn Barod, Bod yn Barchus a Bod yn Ddiogel;
- Mynd i'r afael â phryderon am ymddygiad dysgwyr yn brydlon ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r coleg.
- Rhoi ymyriadau priodol ar waith a chofnodi'r camau a gymerwyd.
- Hybu amgylchedd dysgu cadarnhaol a pharchus.
- Cydweithio gyda chydweithwyr cwricwlwm a gwasanaethau myfyrwyr i nodi, cefnogi ac atgyfeirio myfyrwyr sydd “mewn perygl”.
- Cwblhau asesiadau risg ar gyfer dysgwyr unigol lle bo angen.
- Rhoi ymyriadau priodol a strategaethau cymorth i fyfyrwyr ar waith.
- Monitro ac olrhain cynnydd dysgwyr sydd mewn perygl.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd neu gyfwerth
- TGAU Saesneg & Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad a dealltwriaeth o weithio mewn ffordd sy'n Ystyriol o Drawma
- Cyfathrebwr da
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i uniaethu â'r grŵp targed
- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
- TAR
- Profiad perthnasol o weithio gyda phobl ifanc
- Profiad o gymryd rhan yn weithredol mewn gofal bugeiliol pobl ifanc
- Profiad o gyflwyno addysgu a dysgu
- Profiad o reoli ymddygiad heriol yn effeithiol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 3/4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 3/4
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein