MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060 pro rata
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060 pro rata
Gradd 6 - £27,269.00 am 37 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig yn seiliedig ar 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £23,953.21 pro rata yn codi i 46.8 wythnos, £24,476.20 pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.Mae pennaeth a chorff llywodraethu Ysgol Aberdaugleddau am benodi cynorthwyydd addysgu lefel uwch sy'n weithgar, hyblyg a brwdfrydig i ymuno â thîm llawn gofal yn yr ysgol flaengar, gwbl gynhwysol a chefnogol hon.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio gyda disgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol, anawsterau emosiynol, anhwylderau yn y sbectrwm awtistig, anawsterau dysgu cymedrol, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau ymddygiadol.
Bydd y cynorthwyydd addysgu lefel uwch yn gyfrifol am redeg cwricwlwm amgen CA3 ac CA4 ar gyfer disgyblion y Bae yn ddyddiol.Dylai fod gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth ymarferol am Ymddiriedolaeth y Tywysog, Llwyddo, cymwysterau Agored Cymru, a rhaglenni'r Rhwydwaith Datblygu ac Achredu Cynlluniau Dyfarnu.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnwys disgyblion mewn gweithgareddau dysgu i sicrhau bod yr amcanion dysgu yn cael eu cyflawni, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael ei gynnwys a'i dderbyn yn y cwricwlwm amgen er mwyn hyrwyddo cyfle cyfartal. Byddwch yn cyflwyno gwersi i grwpiau bach o fyfyrwyr, yng Nghyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4, ac yn sefydlu a rheoli cysylltiadau cwricwlwm amgen.
Lleolir Aberdaugleddau ar arfordir prydferth Sir Benfro mewn ardal lle mae tai yn rhad ac mae ansawdd bywyd heb ei ail. Rydym yn ysgol i blant 11-16 oed a chanddi dros 1,100 o ddisgyblion ar y gofrestr, a bydd y niferoedd hyn yn parhau i gynyddu yn y blynyddoedd i ddod.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol ar gyfer Gwasanaeth Addysg a Phlant Sir Benfro.Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein hysgol wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn, a bydd yn gweithredu i ddiogelu eu lles a chydnabod bod gan bob plentyn hawl i gael ei amddiffyn.Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol yr ysgol.
Mae gan yr ysgol hefyd bolisi yswiriant i roi cymorth iechyd a lles ychwanegol i staff.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.