MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Camrbia,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £34,309 Codiad cyflog i ddod - £35,948 Codiad cyflog i ddod
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £34,309 Codiad cyflog i ddod - £35,948 Codiad cyflog i ddod
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Cydlynydd Gwella Ystadau
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol (Hyd at fis Ionawr 2026)
Cyflog: £34,309 - £35,948
Mae gennym ni swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Cydlynydd Gwella Ystadau ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy. Byddwch chi'n gyfrifol am gydlynu ac adrodd ar brosiectau gwella ac adnewyddu ystadau lluosog ar draws pum safle'r coleg, gyda'r bwriad cyffredinol o gyfrannu'n gadarnhaol at gyflawniad parhaus strategaethau ac amcanion allweddol y coleg a'r maes busnes. Byddwch chi'n ymwneud ag amrywiaeth o brosiectau o'r dechrau i'r diwedd. Bydd y rhain yn amrywio o adeiladu newydd ar raddfa fawr i waith adnewyddu ar raddfa lai.
Bydd gofyn i chi ddatblygu perthnasoedd cryf a chadarnhaol gyda nifer o randdeiliaid mewnol ac allanol, gan sicrhau bod prosiectau'n cael eu cwblhau mewn modd tryloyw a chydweithredol, gan sicrhau bod cyllidebau a safonau ansawdd yn cael eu monitro'n agos drwy'r amser, wrth sicrhau bod cyfathrebu'n eglur ac yn effeithiol.
Byddwch chi'n gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Ystadau i roi Strategaeth Ystadau'r coleg ar waith ac i wella a datblygu pob un o'r pum safle coleg yn barhaus ac yn gynaliadwy, yn unol â chefnogi cenhadaeth, nodau ac amcanion strategol y coleg.
Gofynion Hanfodol
- Addysg hyd at Lefel 4 mewn Rheoli Adeiladu, Peirianneg, Pensaernïaeth neu faes cysylltiedig, neu brofiad proffesiynol cyfwerth addas.
- Profiad proffesiynol profedig o fewn y sector perthnasol ee: adeiladu; peirianneg; pensaernïaeth; Iechyd a Diogelwch; rheoli prosiect.
- Sgiliau rheoli prosiect ardderchog a phrofiad ymarferol o reoli prosiectau.
- Gallu dangos ymrwymiad at bwysigrwydd Diogelu ac ymwybyddiaeth o hynny.
- Gallu cyfathrebu i safon uchel ag ystod o randdeiliaid mewnol ac allanol.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig