MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Darlithydd Sgiliau Byw'n Annibynnol a delir fesul awr(Astudiaethau Cyn-alwedigaethol)
Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.
Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno ag ein tȋm brwdfrydig ac angerddol yng Ngholeg Penybont. Fel Darlithydd a delir yn ôl yr awr, byddwch yn cynllunio, datblygu a darparu cynnwys y cwricwlwm yn effeithiol ac effeithlon.
Bydd gennych y wybodaeth ddiweddaraf a phrofiad o gyflwyno cwrs ac profiad o gyflwyno ystod o bynciau i fyfyrwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ynghŷd ȃ perthnasol gradd (neu'n gyfwerth) a thystysgrif TAR, neu'n barod i gyflawni hyn. Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r cwricwlwm Sgiliau Byw'n Annibynnol yng Nghymru a chyflwyno'r pedwar piler.
Gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth myfyrwyr eang ac amrywiol byddwch yn frwdfrydig dros gymell pob dysgwr.
Os teimlwch y gallech gyfrannu at yr addysgu a'r dysgu o fewn y maes hwn, rydym am glywed wrthoch chi! Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth Swydd
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.