MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £30,742 - £47,340
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Tiwtor Allgymorth - Canolfan Ddysgu Sir Benfro

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £30,742 - £47,340

Mae'r Pennaeth a'r Pwyllgor Rheoli am benodi athro achlysurol i ymuno â'n tîm o weithwyr proffesiynol uchel eu cymhelliant sy'n gweithio ar y cyd i godi safonau ar bob lefel. Rhaid i'r ymgeisydd gefnogi amgylchedd meithringar, cadarnhaol lle mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gyflawni eu potensial.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n bodloni manyleb y person yn y swydd-ddisgrifiad ac sy'n bodloni'r canlynol:

  • Yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol.
  • Yn angerddol ac yn wybodus am ddysgu ac am ddatblygiad plant, ac yn cymhwyso'r wybodaeth honno yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau'r cynnydd gorau posibl i bob dysgwr.
  • Yn hyderus wrth weithio ar ei ben ei hunan, gan ddefnyddio ei fenter, yn ogystal â chyfrannu at y maes dysgu a phrofiad yn ei gyfanrwydd

Byddai gwybodaeth a phrofiad perthnasol o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn fuddiol. Rhaid bod gennych ddealltwriaeth o'r egwyddorion diogelu a'r gweithdrefnau amddiffyn plant. Byddai profiad o reoli amrywiaeth o ymagweddau at ymddygiad, gan gynnwys rheoli ymddygiadau heriol yn fanteisiol.

Bydd rhaid i chi fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch âm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.