MANYLION
  • Lleoliad: Newtown , Powys, SY16 1RB
  • Testun: Cydlynydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd SSIE Cenedlaethol

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol ymroddedig i ymuno gyda'n tîm fel Cydlynydd SSIE (ESOL) Cenedlaethol. Yn y rôl allweddol yma, byddwch yn gyfrifol am yrru datblygiad parhaus darpariaeth ac ymarfer SSIE ar draws y sefydliad. Byddwch yn gweithio’n agos ac ar y cyd gyda’r Timau Cwricwlwm ac Ansawdd a staff cyflwyno SSIE i ddatblygu’r darpariaeth SSIE ymhellach, a byddwch yn arwain ar ddatblygu cynnwys y cwrs a gwerthuso ac asesu darpariaeth SSIE y sefydliad.
JOB REQUIREMENTS
Rydym yn chwilio am rywun sy'n angerddol ac sydd gyda hanes o lwyddiant mewn rôl debyg. Dylai fod gennych sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol, profiad o’r Cwricwlwm Craidd SSIE, a gwybodaeth am faterion cyfoes ym maes addysg oedolion yng Nghymru. Bydd eich sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu heb eu hail, a byddwch yn gallu gweithio ar y cyd gydag ystod eang o randdeiliaid.