MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria - Ial,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Tachwedd, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd mean Trin Gwallt CC/2732

Coleg Cambria

Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth

Teitl y Swydd: Darlithydd mean Trin Gwallt

Lleoliad: Iâl

Math o Gontract: Telir fesul Awr, Tymor Penodol (Diwedd Mehefin 2025)

Graddfa Gyflog: £21.16 - £32.71 Yr awr, yn cael ei dalu ar sail cyflog blynyddol o £30,620 - £47,3321. Bydd y cyflog yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad. Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP1 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Sbin Tâl Uwch

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer darlithydd mewn Trin Gwallt ar ein campws yn Iâl. Mae hyn ar sail talu fesul awr tan 27 Mehefin 2025.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn perfformio addysgu wedi'i amserlennu i'n dysgwyr lefel 2 a 3, gan gynnwys paratoi deunyddiau dysgu, a marcio gwaith myfyrwyr. Byddant hefyd yn darparu arweiniad a chefnogaeth addysgol i bob myfyriwr ac yn gweithredu fel tiwtor personol pan fo angen.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5

Wedi'ch addysgu i gymhwyster Lefel 4 o leiaf

Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath

Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i gefnogi'r anghenion hyn mewn amgylchedd dysgu

Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu

Gallu dangos ymrwymiad ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Diogelu

Gallu delio'n brydlon ac yn effeithiol ag ymddygiad amhriodol yn yr ystafell ddosbarth

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig