MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £32,608 - £36,748
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Chwefror, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Iechyd a Gofal Cymdeithasol (plant a phobl ifanc) CC/2737
Coleg Cambria
Cyflog: £32,608 - £36,748
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr UnigolynColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth
Teitl y Swydd: Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith - Iechyd a Gofal Cymdeithasol (plant a phobl ifanc)
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Graddfa Gyflog: £32,608 - £36,748
Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer ein darpariaeth Plant a Phobl Ifanc.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn fodlon dilyn cwrs Cymraeg i wella lefel ei Gymraeg llafar i safon gytunedig
Bydd yr ymarferydd yn asesu'r ystod lawn o gymwysterau o fewn y maes pwnc perthnasol yn unol â gofynion y sefydliad dyfarnu sy'n gysylltiedig â sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol. Gweithio gyda llwyth achosion o ddysgwyr a bennir gan fformiwla llwyth achosion perthnasol y coleg. Bydd yr Ymarferydd yn cynnal Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi ar gyfer dysgwyr, yn cofrestru ar gyrsiau priodol ac yn darparu hyfforddiant, mentora a chyfleoedd dysgu yn ogystal â chyflwyno sesiynau gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr naill ai ar sail 1-i-1 neu fel gweithdy (argymhellir uchafswm maint grŵp o 8).
Monitro cynnydd dysgwyr tuag at gymwysterau, rhoi adborth adeiladol iddynt a'u harwain i baratoi e-bortffolio o dystiolaeth.
Asesu portffolios dysgwyr a chyflwyno portffolios wedi'u cwblhau ar gyfer sicrhau ansawdd mewnol.
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol perthnasol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifanc, i gynnal asesiadau hyd at Lefel 5
- Meddu ar gymhwyster asesydd neu fod yn barod i weithio tuag ato (TAQA)
- Meddu ar gymhwyster Sicrhau Ansawdd neu fod yn barod i weithio tuag ato (401 Uned TAQA ar hyn o bryd).
- Cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 (neu gyfwerth) ar Radd 4 (C) neu uwch
- Meddu ar gymhwyster Lefel 2 Llythrennedd Digidol neu fod yn barod i weithio tuag ato
- Profiad profedig yn y diwydiant o fewn maes proffesiynol perthnasol (Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifanc)
- Profiad o gysylltu a gweithio mewn partneriaeth â rheolwyr allanol mewn diwydiant
- Gallu dangos ymrwymiad i gynnal a datblygu safonau ansawdd o fewn addysg
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig