MANYLION
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa gyflog 2\/3: £23,151 - £24,429 y flwyddyn (per annum)
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa gyflog 2\/3: £23,151 - £24,429 y flwyddyn (per annum)
Gweinyddwr Dysgu Seiliedig ar WaithLlawn amser (37 awr yr wythnos), Parhaol
Graddfa gyflog 2/3: £23,151 - £24,429 y flwyddyn (per annum)
Mae gennym gyfle newydd a chyffrous i rywun ymuno â'n tîm Dysgu Seiliedig ar Waith!
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
- Rheoli llwyth achosion o brentisiaid at bob diben gweinyddol drwy gydol y rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith
- Sefydlu perthnasau gwaith effeithiol gyda phartïon mewnol ac allanol
- Cadw cronfeydd data gyda gwybodaeth gywir
- Cynorthwyo'r prosesau cynefino ac ymrestru
- Cefnogi'r adran Dysgu Seiliedig ar Waith i gyflawni ei thargedau o ran perfformiad ac incwm
- Darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
- Ymgymryd â hyfforddiant mewnol er datblygiad proffesiynol yn ôl yr angen
- Cyfrannu at y broses Cynllunio Datblygiad a Hunanasesu Blynyddol
Bydd gennych o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch neu gyfwerth, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Ynghyd â sgiliau trefnu a TG gwych, bydd y gallu a'r hyder gennych i weithio â systemau gweinyddu.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cliciwch yma .
Mae cyfweliadau wedi'u hamserlennu ar gyfer 10 Rhagfyr 2024.
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.