MANYLION
- Lleoliad: Campws Pen-y-bont,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Cyflog: Graddfa Rheoli 2-3: £49,256 - £50,815 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Cyflog: Graddfa Rheoli 2-3: £49,256 - £50,815 y flwyddyn
Rheolwr Gwasanaethau GwybodaethLlawn amser a Pharhaol
Cyflog: Graddfa Rheoli 2-3: £49,256 - £50,815 y flwyddyn
Mae cyfle cyffrous wedi codi yng Ngholeg Penybont. Os ydych yn teimlo y gallech chi gyfrannu at y tîm cefnogol hwn, rydyn ni am glywed gennych chi!
Pwrpas Swydd:
Arwain y gofynion adrodd ar ddata ac ariannu allanol i gyrff allanol (arloesol, angerddol).
Llunio a gwella ymhellach ddull y coleg o ddefnyddio gwasanaethau gwybodaeth reoli yn systematig, gan sicrhau bod allbynnau'r tîm yn cyd-fynd a blaenoriaethau strategol y Coleg (MIS) i wella taith a phrofiad y cwsmer (cynhwysol, chwaraewr tîm).
Creu diwylliant o ddigidol yn gyntaf, gan gefnogi a galluogi timau i ddefnyddio systemau gwybodaeth i hysbysu, llunio a gwella (sy'n canolbwyntio ar bobl, ysbrydoledig).
Am ragor o wybodaeth, gweler y pecyn gwybodaeth swydd .
Dyddiad Cau: 25/11/2024
Dyddiad Cyfweliad: 03/12/2024 (sylwch, dyma'r unig ddyddiad ar gyfer cyfweliadau ac yn anffodus ar yr achlysur hwn ni fyddwn yn gallu aildrefnu unrhyw ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer).
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.