MANYLION
- Lleoliad: Campws Pen-y-bont,
- Cytundeb: gweithio hyblyg
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £23,151 y flwyddyn pro rata - £12.00 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £23,151 y flwyddyn pro rata - £12.00 yr awr
Cynorthwyydd Arlwyo (Siop Goffi)Graddfa Gyflog 1: £23,151 y flwyddyn pro rata -
£12.00 yr awr
Post A - 26 awr yr wythnos. 10yb-5yp (Dydd Llun i ddydd Iau). Yn ystod y tymor yn unig am 36 wythnos. Cyfnod penodol hyd at 31ain Awst 2025.
Post B - 23 awr yr wythnos. 8yb - 1yp (Dydd Llun i ddydd Iau) a 10yb - 1yp (dydd Gwener). Yn ystod y tymor yn unig am 40 wythnos. Cyfnod penodol hyd at 2il Tachwedd 2025.
Yn ystod y Tymor yn Unig Gyflog (yn seiliedig ar 36 wythnos lawn / 40 wythnos a weithiwyd) - £12,955 / £12,733 y flwyddyn. Sylwch, bydd y cyflog gwirioneddol yn seiliedig ar nifer yr wythnosau a weithiwyd am weddill y flwyddyn academaidd.
Lleoliad: Campws Penybont
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Arlwyo i ymuno a thîm arlwyo bywiog a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont.
Byddwch yn cynorthwyo gyda pharatoi bwyd a diod (gan gynnwys coffi barista) a help gyda chynnal amgylchedd glȃn a ddiogel.
Os oes gennych sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych, ac rydych yn mwynhau gweithio yn y maes arlwyo, hoffem glywed gennych!
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma: Pecyn Gwybodaeth Swydd
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gallu dangos sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a yw'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam.