MANYLION
- Lleoliad: Coety Primary,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Athro/athrawes - Ysgol Gynradd Coety - Cyfnod Mamolaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro/athrawes - Ysgol Gynradd Coety - Cyfnod MamolaethDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 12 mis neu hyd nes y bydd deiliad y swydd yn dychwelyd; pa un bynnag sydd gynharaf Dyddiad Dechrau tua mis Ionawr 2025
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Coety yn ceisio penodi athro/athrawes drefnus, llawn cymhelliant ac effeithiol, â sgiliau gwych o ran rheoli ystafell ddosbarth, i ymuno â'n tîm cyfeillgar a phroffesiynol. Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy'n angerddol am ddarparu profiadau dysgu ysbrydoledig. Bydd angen i'r ymgeisydd fwynhau gweithio fel rhan o dîm i gwmpasu cyfnod mamolaeth gan addysgu mewn dosbarth ystod oedran Blwyddyn 3 – 4 i ddechrau.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:
Ymarferydd rhagorol yn yr ystafell dosbarth
Yn hyblyg, yn gweithio'n galed ac yn frwdfrydig
Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel ar gyfer dysgu, ymddygiad a gofal yr holl ddisgyblion.
Ymrwymedig i safonau uchel.
Sgiliau trefnu, rhyngbersonol a chyfathrebu da.
Bod yn gwbl gefnogol i werthoedd ac ethos ein hysgol gynhwysol.
Mae Ysgol Gynradd Coety yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Cyfle i edrych o amgylch yr ysgol: 14 Tachwedd 2024 am 17:00pm
(Cysylltwch â Mrs Phillips (adminmanager@coetyps.bridgend.cymru) os hoffech fod yn bresennol)
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 20 Tachwedd 2024
Dyddiad Cyfweld: wythnos yn dechrau 9 Rhagfyr 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person