MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Bryn Castell,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £20,843 - £21,530 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Cymorth Arbennig - Ysgol Bryn Castell
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £20,843 - £21,530 y flwyddyn
Swyddog Cymorth Arbennig - Ysgol Bryn CastellDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Mae angen person brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymedig ar Gorff Llywodraethu Ysgol Bryn Castell i gynorthwyo disgyblion ag anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol gan gynnwys awtistiaeth ochr yno ochr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) eraill fel Swyddog Cymorth Arbennig mewn amgylchedd ysgol arbennig.
Byddai rhywfaint o brofiad o weithio gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn enwedig disgyblion ag anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (BESD) gan gynnwys awtistiaeth ar draws y cyfnod cynradd ac uwchradd yn fanteisiol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus fynediad at amrywiaeth o fuddion i gyflogeion gan gynnwys:
Gall pob cyflogai gael mynediad at raglen Gwobrwyon Brivilege sy'n rhoi mynediad at yr holl arbedion a buddion sy'n deillio o fod yn un o gyflogeion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gan gynnwys gostyngiadau gan brif fanwerthwyr.
Hamdden â Chymhorthdal: Mae pob cyflogai'n gymwys i brynu Bridgecard ar gyfraddau gostyngol sy'n cynnig mynediad am ddisgownt i ganolfannau hamdden y cyngor yn y fwrdeistref.
Buddion aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.
Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol: ceir amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i hyrwyddo lles y staff. Mae'r rhain yn cynnwys cwnselydd mewnol, mynediad llawn at wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol SAS a mynediad at VIVUP sy'n gallu darparu amrywiaeth o gymorth gan gynnwys cymorth ariannol, llesiant meddyliol a chorfforol.
Hyfforddiant a Datblygiad: Mae Ysgol Bryn Castell yn cydnabod pwysigrwydd dysgu i lwyddiant y sefydliad ac rydym yn ymrwymedig i fuddsoddi yn ein staff a'u datblygu.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person