MANYLION
- Lleoliad: St Mary’s & St Patricks Roman Catholic Primary School,
- Oriau: Not Specified
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Prif Raddfa Gyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Athrawes - Ysgol Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Prif Raddfa Gyflog Athrawon
Athrawes - Ysgol Gatholig y Santes Fair a Sant PadrigDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Mae Ysgol Catholig Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig yn ysgol fywiog a chyffrous yng nghwm prydferth Maesteg, yn Archesgobaeth Caerdydd. Ar hyn o bryd mae ychydig o dan 200 o ddisgyblion ar y gofrestr. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn ysgol glos, un dosbarth mynediad gyda theimlad cryf o gymuned. Mae hwn yn gyfle cyffrous i athro/athrawes ymuno â'n tîm bach, cefnogol a chyfeillgar a darparu cyfleoedd rhagorol i'n disgyblion. Nid oes rhaid i chi fod yn Gatholig i addysgu yn ein hysgol; y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn cynnal ein gwerthoedd Catholig ac yn cymryd rhan lawn ym mywyd Catholig ein hysgol.
Byddai'r rôl hon yn gyfle gwych i ymarferydd profiadol. Hoffem glywed gennych os ydych yn:
Athro/athrawes ragorol sy'n gallu ysgogi, ysbrydoli a darparu her i ddisgyblion yn eu dysgu.
Yn barod i feithrin perthnasoedd cryf a chefnogol gyda disgyblion, teuluoedd a staff.
Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel mewn perthynas ag ymddygiad disgyblion.
Yn awyddus i gymryd rhan lawn ym mywyd ehangach yr ysgol.
Yn cynnal ethos Catholig ein hysgol.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn
athro/athrawes gymwysedig sy'n gallu dangos hanes llwyddiannus o hwyluso datblygiad academaidd ac arddull addysgu greadigol a difyr
hanes blaenorol o arwain maes cynllun datblygu ysgol, gyda llwyddiant
yn meddu ar allu a phrofiad addysgu ar draws y camau cynnydd
profiad o addysgu plant ADY
sgiliau gwych wrth reoli ystafell ddosbarth
gallu defnyddio eu menter eu hunain a dod yn rhan hanfodol o'n tîm
bod yn weithgar, yn frwdfrydig ac yn ymroddedig
Cynnal ethos Catholig ein hysgol
Yn Ysgol y Santes Fair a Sant Padrig byddwch yn dod o hyd i:
Yr un plant hwyliog, swnllyd a chyffrous ag y byddech yn eu cael ym mhob ysgol.
Teuluoedd cefnogol a chadarnhaol.
Croeso cynnes gan yr holl staff a llywodraethwyr.
Ysgol sy'n amgylchedd hapus, cyfeillgar a chadarnhaol.
Argymhellir yn gryf eich bod yn ymweld â'r ysgol.
Dylai ceisiadau fod ar ffurflen Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig, y gellir ei lawrlwytho o http://catholiceducation.org.uk/ neu gallwch gael copi ohoni o'r ysgol, ynghyd â manylion pellach. Rydym yn croesawu ymweliadau â'r ysgol drwy drefniant ymlaen llaw.
Cysylltwch â'r Mrs N Kelly-Fisher, Pennaeth, i drefnu ymweliad neu i wneud cais am becyn cais drwy'r post, dros y ffôn neu drwy neges e-bost
Lleoliad: Ysgol Catholig Gynradd Gatholig y Santes Fair a Sant Padrig. Stryd Monica. Maesteg. CF34 9AY
Ffôn: 01656 815585
E-bost: head@stmstpcs.bridgend.cymru
Gwefan: Ysgol Gynradd y Santes Fair a Sant Padrig - Hafan
Mae Ysgol Gynradd y Santes Fair a Sant Padrig yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r holl swyddi gwag sy'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Cofnodion Troseddol gynt) ar Lefel Fanwl.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 20 Tachwedd 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Tachwedd 2024
Dyddiad Cyfweld ac Arsylwi Dosbarth: Wythnos yn dechrau 2 Rhagfyr 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person