MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Ionawr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £30,620 Codiad cyflog i ddod - £47,331 Codiad cyflog i ddod
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, yn ogystal â Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol yn y Gwaith, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd Teithio a Thwristiaeth
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Rhan amser (0.5FTE), Parhaol
Cyflog: £32,304 - £49,934 (50% Pro Rata) (Mae pwyntiau ystod cyflog uwch UP2 ac UP3 yn amodol ar dystiolaeth o ddilyniant blaenorol i'r Colofnau Cyflog Uwch.)
Ymunwch â'n tîm fel Darlithydd Teithio a Thwristiaeth ar safle Iâl Coleg Cambria. Yn y swydd hon, byddwch yn ysbrydoli ein dysgwyr Lefel 2 i FdA gyda darlithoedd a sesiynau ymarferol diddorol sy'n archwilio tueddiadau'r diwydiant, cyrchfannau byd eang, rhagoriaeth gwasanaethau i gwsmeriaid, ac arferion twristiaeth cynaliadwy. Byddwch yn asesu cynnydd myfyrwyr, wrth roi adborth gwerthfawr i gefnogi eu datblygiad, gan greu amgylchedd dysgu dynamig sy'n meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a chreadigrwydd.
Fel addysgwr ymroddedig, byddwch yn aros ar flaen y gad yn y diwydiant teithio a thwristiaeth, gan sicrhau bod eich addysgu yn adlewyrchu datblygiadau diweddaraf, technolegau newydd, a methodolegau arloesol. Gan gydweithio â chydweithwyr, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu ac adolygu deunyddiau cwrs, gan sicrhau eu bod yn bodloni safonau'r diwydiant ac yn darparu ar gyfer anghenion amrywiol ein dysgwyr. Hefyd byddwch yn cael y cyfle i chwarae rhan yng ngwaith creu rhaglenni teithio a thwristiaeth, gan lywio dyfodol addysg yn y maes hwn.
Mae creu amgylchedd dosbarth cynhwysol yn hanfodol, gan hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Trwy feithrin awyrgylch cefnogol, byddwch yn grymuso pob myfyriwr i ffynnu a llwyddo, gan eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.
Os oes gennych chi angerdd am deithio a thwristiaeth, ynghyd ag awydd cryf i wneud gwahaniaeth ym mywydau gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol, rydym yn eich gwahodd i wneud cais am swydd Darlithydd Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Cambria. Ymunwch â ni wrth i ni lywio dyfodol addysg teithio a thwristiaeth. Gwnewch gais rŵan i ddechrau ar y daith gyffrous hon!
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster Addysgu (e.e. Tystysgrif Addysg, TAR, C&G 7407)
- Addysg at gymhwyster Lefel 6 o leiaf
- Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
- Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i ddiwallu'r anghenion hyn mewn amgylchedd dysgu
- Profiad o addysgu ym maes AB
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai