MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,382 - £39,357
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 05 Awst, 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd

Darlithydd

Coleg Cambria
Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch yn addysgu sesiynau yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu cymwysterau, a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Byddwch yn rhoi arweiniad addysgol, cymorth a chyngor i bob myfyriwr o gefndiroedd amrywiol a gydag amrywiaeth eang o anghenion dysgu. Byddwch hefyd yn cysylltu â thiwtoriaid meysydd busnes eraill i drafod materion fel adnoddau, datblygu’r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill. Bydd gofyn i chi gynhyrchu a chwblhau dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Gofynion Hanfodol

Bod â chymhwyster Lefel 5 mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth.

Bod â chymhwyster addysgu addas fel TAR, Tystysgrif Addysg, neu’n barod i weithio tuag at hynny.

Dealltwriaeth gadarn o bynciau mathemategol a sut i’w defnyddio.

Gallu dangos sut rydych yn cadw’n ymwybodol o’r datblygiadau parhaus yn eich maes arbenigol eich hun.

Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog ac yn aelod cadarn o dîm.

Datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu a pharatoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol.

Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun.

Gallu defnyddio TG, gan gynnwys pecynnau fel Microsoft Office, a rhaglenni Google yn ddelfrydol.

Ymwybodol o bwysigrwydd safonau ansawdd mewn dysgu.

Mae gallu defnyddio pecynnau meddalwedd CAD/CAM a/neu Matlab/Mathcad yn fantais.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i wella proffil y Gymraeg. 

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’. 

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny. 

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Os byddwch yn llwyddiannus, efallai y bydd yn ofynnol i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, yn ddibynnol ar y swydd yr ydych yn ymgeisio amdani.