MANYLION
- Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £10,949 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £10,949 / blwyddyn
Cynorthwyydd GlanhauApplication Deadline: 11 November 2024
Department: Swyddfa'r Campws
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Aberystwyth
Reporting To: Rheolwr Campws
Compensation: £10,949 / blwyddyn
DescriptionMae'r Bwrdd Corfforaethol wedi ymrwymo i benodi staff a fydd yn dangos menter a brwdfrydedd, ac a fydd yn ychwanegu ymhellach at enw da'r Coleg trwy ymrwymiad i weithio fel aelod o dîm a chynhyrchu gwaith o ansawdd uchel. Yn benodol, staff sydd yn gallu datblygu ein cenhadaeth ymhellach: Bod yn Rhagorol - Y Coleg Dewisol. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol a dyfeisgar.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Sicrhau bod y coleg yn cael ei lanhau i safon uchel o fewn eich ardal ddynodedig a thrwy bob man;
- Yr holl finiau i gael eu gwagio a'u leinio o'r newydd, sbwriel i gael ei adael y tu allan i adeiladau ar ddiwedd y sifft;
- Ardaloedd wedi'u carpedu i gael eu hwfro'n drylwyr yn ôl y gofyn;
- Ardaloedd lloriau caled i gael eu mopio'n sych neu'u brwsio. Rhai lloriau caled penodol i gael eu mopio neu'u bwffio bob dydd;
- Arwynebau gwaith, desgiau, byrddau a chyfarpar arall i gael eu glanhau a'u dwstio yn ôl y gofyn;
- Cynnal a defnyddio'r holl ddeunyddiau a chyfarpar yn y modd mwyaf effeithlon a chost-effeithiol;
- Gwneud gwaith glanhau ychwanegol fel bod angen ar ôl digwyddiadau mawr/ychwanegol i sicr bo yr adeilad yn cael ei baratoi i'r safon ofynnol at ddibenion gweithredol;
- Gweithredu yn unol â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a gofynion COSHH;
- Ystafelloedd i gael eu cloi ar eu gadael gyda'r goleuadau wedi'u diffodd pan fyddwch yn gadael;
- Adrodd wrth eich goruchwyliwr ynghylch unrhyw ddifrod neu ofynion cynnal a chadw;
- Cyfrannu fel y bo'n briodol at weithredu holl bolisïau a gweithdrefnau'r coleg yn effeithiol;
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill fel sy'n ofynnol gan y Pennaeth, Cyfarwyddwr Ystadau ac Iechyd a Diogelwch, Swyddog Ystadau a Goruchwyliwr Glanhau.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Profiad glanhau perthnasol
- Gallu gweithio'n effeithiol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm
- Gallu dilyn cyfarwyddiadau a chwblhau tasgau'n gysylltiedig â'r swydd mewn modd effeithiol
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol ardderchog
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Prydlondeb ardderchog a'r gallu i weithio'n hyblyg
- Tra brwdfrydig ac ymrwymedig i'r gwaith
- Gallu dangos menter o fewn yr amgylchedd gwaith
Yr Iaith Gymraeg:
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein