MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,294 - £27,334
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £24,294 - £27,334
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 773
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Dechrau'n Deg
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Gradd: Gradd E
Cyflog: £24,294 - £27,334
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £12.59 - £14.16
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm
Ar hyn o bryd rydym yn hysbysebu am swydd cynorthwyydd data perfformiad ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion trefnus a chryf eu cymhelliant sydd â brwdfrydedd â blaengarwch. Yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith ac aros yn ddigynnwrf o dan bwysau. Mae lefelau uchel o gywirdeb yn hanfodol wrth fwydo data a chynnal a chadw'r systemau amrywiol. Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o gronfeydd data, er enghraifft: Care First. Mae sgiliau TG o safon uchel a sgiliau llythrennedd rhagorol yn hanfodol.
Rydym yn gyflogwr sy'n cefnogi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac felly'n ystyried atebion hyblyg i sicrhau bod gweithwyr yn gallu cyflawni hyn. Felly, yn unol ag anghenion busnes, byddai deiliad y swydd yn gallu gweithio'n hyblyg.
Os ydych wedi ymrwymo i weithio ym maes perfformiad a data, yna gallwn ddarparu'r cymorth a'r cyfle i gael y profiad a'r cymwysterau ar gyfer y swydd hon.
Sylwer: noder: darllenwch y proffil swydd yn ofalus a rhowch enghreifftiau ysgrifenedig yn eich datganiad ategol i ddweud wrthym beth rydych wedi'i wneud a pham eich bod yn meddu ar y sgiliau yr ydym yn chwilio amdanynt.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Charmaine Glisson, clglisson@sirgar.gov.uk or Paola Perkins Paola Perkins, pperkins@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd: 026979.pdf - 192KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 10/11/2024, 23:55
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.