MANYLION.
  • Lleoliad: Newport,
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: £33,596 - £51,930
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Mehefin , 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd- Atgyweirio Damweiniau Cerbydau

Coleg Gwent

Cyflog: £33,596 - £51,930

Darlithydd - Atgyweirio Damweiniau Cerbydau
Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos

Rydym yn chwilio am ddarlithydd brwdfrydig iawn i ymuno â'n tîm atgyweirio cerbydau modur llwyddiannus.

Bydd gennych radd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn barod i ddechrau'r cymhwyster hwn ar ôl cael eich penodi.

Bydd angen i chi fod yn hyddysg mewn TG, yn hyblyg ac yn barod i weithio fel rhan o dîm. Mae profiad diwydiannol perthnasol yn hanfodol.

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Gofynion a Chydymffurfiaeth

  • Diogelu: Mae'r penodiad yn amodol ar ddal gwiriad DBS Manwl boddhaol a bod yn gofrestredig gyda'r CGA (rhaid i'r ymgeisydd dalu'r costau).
  • Cymwysterau: Rhaid i ddarlithwyr feddu ar gymhwyster addysgu neu fod yn barod i'w gyflawni (e.e. TAR) o fewn cyfnod penodol.


Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyflogwr gwrth-hiliol a Hyderus o ran Anabledd yw Coleg Gwent, sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn croesawu pob math o hunaniaeth a dawn niwroamrywiol, ac anogwn geisiadau oddi wrth grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (Lleiafrifoedd Ethnig, Benywod, pobl LHDTC+ a phobl ag anableddau) yn arbennig. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys chwe rhwydwaith staff (Hil, LHDTC+, Anabledd, ayyb) a Grŵp Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Llesiant Staff

Rydym yn darparu cefnogaeth iechyd gynhwysfawr sy'n cynnwys:
  • Mynediad i'r gampfa a gweithgareddau lles â chymhorthdal.
  • Mynediad i ap Headspace a hyrwyddwyr iechyd meddwl.
  • Campysau ac ystafelloedd gweddïo hygyrch.


Dyddiad Cau: 21/06/26

Dyddiad Cyfweliad: 03/07/26