MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £27,186 - £29,500 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £27,186 - £29,500 / blwyddyn
Swyddog Pontio ADYApplication Deadline: 3 November 2024
Department: Cymorth Dysgu
Employment Type: Contract Cyfnod Penodol
Location: Campws Graig
Reporting To: Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad Dysgwyr
Compensation: £27,186 - £29,500 / blwyddyn
DescriptionBydd y rôl Swyddog Pontio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) hon yn galluogi'r Coleg i ddarparu cefnogaeth well ar gyfer proses bontio dysgwyr ag ADY ac Awtistiaeth drwy gefnogi adolygiadau dysgwyr a chynllunio ar gyfer pontio llwyddiannus. Bydd deilydd y swydd yn profi effeithiolrwydd y gefnogaeth bresennol a ddarperir drwy hwyluso adolygiadau blynyddol a defnyddio arfer person-ganolog. Bydd hefyd yn sicrhau bod y dulliau o ddarparu gwasanaethau yn cyfrannu'n uniongyrchol at ganlyniadau cadarnhaol i ddysgwyr, cyfraddau llwyddiant gwell, cyflogadwyedd gwell a dilyniant priodol ar gyfer pob dysgwr.
Cyfrifoldebau AllweddolBydd disgwyl i'r Swyddog Pontio ADY:
- Gysylltu â'r darparwyr addysg a chyngor e.e. Gyrfa Cymru, ysgolion lleol a darparwyr gofal gyda'r bwriad o nodi darpariaeth briodol ar gyfer pobl ifanc ag ADY/Awtistiaeth wrth bontio i'r Coleg;
- Cysylltu â myfyrwyr, teuluoedd/gofalwyr, a staff y coleg i asesu a monitro gweithrediad y cynlluniau pontio;
- Cysylltu â'r Gofrestrfa a'r adran Arholiadau i gefnogi ceisiadau am Drefniadau Mynediad i Arholiadau (EAA), gydag arweiniad a hyfforddiant priodol;
- Gweithredu fel cyswllt allweddol ar gyfer pobl ifanc, rhieni/gofalwyr, ysgolion, awdurdodau lleol a budd-ddeiliaid eraill;
- Ymgysylltu â darpar ddysgwyr newydd o ysgolion lleol ac asiantaethau eraill a chreu cyfleoedd pontio ystyrlon i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Anableddau (ALND) i'r coleg, wrth ymateb yn rhagweithiol i'r strategaethau a'r polisïau llywodraethol newidiol ar gyfer y maes hwn;
- Mynd ati i gynnal ffeiliau pontio a chofnodion cronfa ddata dysgwyr unigol yn gywir a defnyddio'r rheiny i ddadansoddi'r gwasanaeth yn feintiol ac yn ansoddol;
- Sicrhau bod gwybodaeth gefnogi, gofynion a manylion pontio ar gyfer dysgwyr unigol yn cael eu darparu i bob tîm academaidd a phob tîm cymorth mewn modd amserol;
- Cynorthwyo'r Cydlynydd ADY a'r Cydlynwyr Cymorth Dysgu gydag adolygiadau IDP/LSP gan ddefnyddio technegau person-ganolog a sicrhau bod yr holl fudd-ddeiliaid perthnasol yn cael eu nodi a'u bod yn cael cyfle i gyfrannu;
- Cysylltu â staff Cyfadrannau i nodi a chefnogi dysgwyr ag ASA drwy greu Proffiliau Un Dudalen a Chynlluniau Cefnogi Ymddygiad a monitro cynnydd;
- Sicrhau bod adolygiadau yn amserol, yn gadarn ac yn cefnogi dyheadau pob person ifanc at fod yn oedolyn;
- Sicrhau bod yr holl broffiliau un dudalen yn cael eu hadolygu a bod targedau'n cael eu gosod a'u hadolygu'n flynyddol;
- Mynychu, cyfrannu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd y tîm Profiad Dysgwyr yn ôl yr angen;
- Cysylltu'n rhagweithiol â'r Cydlynydd ADY a'r Tîm Lles i sicrhau bod gofynion cymorth dysgu ychwanegol yn cael eu nodi'n gywir yn briodol;
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant yn ôl yr angen;
- Cynrychioli'r tîm Profiad Dysgwyr mewn nosweithiau agored, digwyddiadau gwybodaeth i rieni/gofalwyr a digwyddiadau ysgolion lleol, gan weithredu fel llysgennad ar ran y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C
- Profiad perthnasol o weithio gydag unigolion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Awtistiaeth
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau trefniadol da
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Sgiliau cyflwyno da
- Sgiliau llythrennedd cyfrifiadurol da
- Profiad neu wybodaeth o Drefniadau Mynediad i Arholiadau
- Trwydded yrru gyfredol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 1/2
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 1/2
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein