MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,218 - £24,823
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddwr Cambria Heini CC/2723

Coleg Cambria

Cyflog: £24,218 - £24,823

Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Hyfforddwr Cambria Heini

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy, gyda'r gallu i deithio i bob safle yn ôl y gofyn

Math o Gontract: Rhan amser (94.59% 35 awr yr wythnos) Cyfnod penodol - 31/07/2025

Cyflog: £24,218 - £24,823 (yn aros am gadarnhad o godiad cyflog)

Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer Hyfforddwr Cambria Heini yn ein tîm Profiad Dysgwyr yng Ngholeg Cambria. Nod Cambria Heini yw helpu staff a myfyrwyr Coleg Cambria i wneud gwelliannau i'w llythrennedd corfforol a gwella eu llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol.

Fel aelod allweddol o'r tîm Profiad Dysgwr, bydd eich dyletswyddau fel Hyfforddwr Cambria Heini yng Ngholeg Cambria yn cynnwys datblygu a chyflwyno sesiynau aml-chwaraeon ym mhob un o safleoedd Coleg Cambria. Ochr yn ochr â hyn, byddwch chi'n cefnogi twf ein profiad gwirfoddoli rhagorol i fyfyrwyr. Byddwch chi'n gweithio i fodloni gofynion y gymuned leol yn ogystal â staff a myfyrwyr i hyrwyddo a chynyddu lefelau cyfranogiad mewn gweithgaredd corfforol a chwaraeon.

Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
  • Recriwtio, cadw a hyfforddi Arweinwyr Dibynadwy a Llysgenhadon Ifanc i gefnogi'r coleg a'r gymuned.
  • Cynorthwyo gyda'r broses o chwilio am gyllid a darparu gwybodaeth a fydd yn cefnogi ceisiadau am gyllid i gefnogi gweithgareddau cynaliadwy.
  • Cynllunio a chynyddu ymgysylltiad â gweithgaredd Cambria Heini a chyflwyno sesiynau'r Meddwl, y Corff a'r Enaid.
  • Dylunio a datblygu gweithgaredd pwrpasol wedi'i deilwra i ysgogi dysgwyr a staff i gynyddu cymhwysedd a hyder.
  • Hyfforddi sesiynau gweithgareddau corfforol a sesiynau chwaraeon cymysg yn ystod oriau'r coleg ac ar ôl coleg yn ogystal ag unrhyw ddarpariaeth chwaraeon arall yn ôl yr angen.
  • Hwyluso sesiynau Athletau Iau cymunedol, Gwersylloedd Heini a gweithgaredd cymunedol arall.
  • Cynnal cymhwyster hyfforddi dilys a dilyn rhaglen DPP briodol.
  • Monitro, adrodd ar a gwerthuso gweithgareddau.

Gofynion Hanfodol
  • Cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth) gradd 4 (C) neu uwch
  • Cymhwyster Llythrennedd Digidol Lefel 2 neu'n fodlon gweithio tuag at hynny
  • Cymhwyster Lefel 2 mewn Hyfforddi
  • Profiad blaenorol o hyfforddi grwpiau mawr o blant ifanc.
  • Profiad o weithio mewn coleg yn cynnal sesiynau aml-chwaraeon.
  • Profiad a gwybodaeth flaenorol o chwaraeon
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser gwych
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm ehangach, a bod yn hyblyg a gallu addasu pan fo angen
  • Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Gallu dangos gwytnwch personol er mwyn ymdopi ag ystod o sefyllfaoedd anodd
  • Rhagweithiol a hunanysgogol.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig