MANYLION
  • Lleoliad: St Mary’s Roman Catholic Primary School,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £18,893 - £19,540 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £18,893 - £19,540 y flwyddyn

Swyddog Cymorth Dysgu - Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yn ceisio penodi Swyddog Cymorth Dysgu brwdfrydig, gofalgar a chydwybodol i weithio mewn tîm addysgu llawn cymhelliant a chyfeillgar.

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n agos gydag athrawon, mewn ysbryd o waith tîm rhagorol, i ddarparu cymorth o ansawdd uchel i grwpiau o ddysgwyr ac i unigolion o fewn ethos Catholig cryf.

I ddechrau, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth hanfodol o fewn Stiwdio Blynyddoedd Cynnar yr ysgol. Felly, byddai lefel uchel o wybodaeth a sgiliau mewn perthynas ag addysgu a dysgu'r Blynyddoedd Cynnar yn fantais sylweddol.

Byddwch wedi cymhwyso i o leiaf NVQ Lefel 3 neu gyfwerth ac yn meddu ar brofiad da o weithio gyda phlant mewn amgylchedd ysgol.

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â'r ysgol er mwyn trefnu ymweliad.

Os hoffech drafod y swydd hon, ffoniwch Mrs Azzopardi, Pennaeth, ar 01656 815560.

Nodwch: Dylai Ffurflenni Cais CES Staff Cymorth wedi'u llenwi

(https ://www.catholiceducation.org.uk/recruitment-process/item/1000042-model-application-forms) gael eu dychwelyd yn uniongyrchol i'r ysgol erbyn y dyddiad uchod; drwy e-bost i admin@stmaryscps.bridgend.cymru neu drwy'r post at:

Y Pennaeth,

Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair

Heol Llangewydd,

Pen-y-bont ar Ogwr. CF31 4JW.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 14 Tachwedd 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person