MANYLION
  • Lleoliad: Campws Pen-y-bont,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd)

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata)

Darlithydd Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd)

0.5 FTE (18.5 awr yr wythnos) am parhaol

Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata)

Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata)

Ydych chi'n addysgwr theatr gerdd angerddol ac ymroddedig? Rydym yn chwilio am ddarlithydd Celfyddydau Perfformio (Theatr Gerdd) talentog ac ysbrydoledig i ymuno â'n hadran ddeinamig. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol wybodaeth dda am theatr gerdd a chariad mawr ati, ynghyd â gallu amlwg i ennyn diddordeb ac ysgogi myfyrwyr.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr ar draws ystod o ddisgyblaethau Celfyddydau Perfformio, gan gynnwys gwersi canu, repertoire theatr gerdd, a chanu ensemble. Byddwch yn cyflwyno gwersi o ansawdd uchel ar ganu unigol, canu ensemble, techneg leisiol, ac actio trwy gân. Byddwch yn mentora ac yn arwain dysgwyr tuag at lwyddiant mewn addysg uwch a'r diwydiant celfyddydau perfformio ynghyd â chyfrannu at ddatblygu'r cwricwlwm, asesu, a chynyrchiadau, perfformiadau a gweithgareddau allgyrsiol.

Bydd gennych brofiad proffesiynol o'r diwydiant theatr gerdd ynghyd â chymhwyster addysgu cydnabyddedig (neu barodrwydd i weithio tuag at un). Fe fyddwch yn fedrus wrth gyflwyno gwersi difyr ac ymarferol ar gyfer ystod o wahanol alluoedd, gan ddarparu cymorth teilwredig i sicrhau bod pob dysgwr yn cyrraedd ei botensial. Mae sgiliau cyfathrebu cryf, ysbryd cydweithredol, y gallu i fentora ac ysgogi dysgwyr, ac ymrwymiad i greu amgylchedd dysgu cynhwysol i gyd yn allweddol i lwyddiant y rôl hon.

Os ydych yn frwd dros rannu eich gwybodaeth am y diwydiant ac am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o berfformwyr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.