MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £27,079 - £28,875 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Tachwedd, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £27,079 - £28,875 / blwyddyn
Uwch GyfieithyddApplication Deadline: 3 November 2024
Department: Bilingualism
Employment Type: Parhaol
Location: I gael ei gadarnhau
Reporting To: Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell
Compensation: £27,079 - £28,875 / blwyddyn
DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae'r tîm cyfieithu yn darparu gwasanaeth cyfieithu mewnol ar gyfer y tîm Gweithredol, staff addysgu a staff cymorth ar draws saith campws y Coleg. Rôl yr uwch gyfieithydd yw cydlynu a goruchwylio gwaith y tîm cyfieithu mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni a bod cyfieithu o safon uchel yn cael ei gynnal bob amser. Bydd ganddo lygad craff am fanylion a bydd ganddo'r gallu i weithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser tynn. Bydd ganddo'r gallu i gyfieithu dogfennau'n hyderus o'r Saesneg i'r Gymraeg yn ogystal ag o'r Gymraeg i'r Saesneg. Gall dogfennau fod yn amrywiol, gan gynnwys adnoddau dysgu ar gyfer yr ystod eang o feysydd cwricwlwm, polisïau'r Coleg, dogfennau gweinyddol a phostiadau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Mae'r uned yn defnyddio meddalwedd cof cyfieithu WordFast. Mae angen sgiliau rhyngbersonol a threfnu rhagorol gan y bydd gofyn i ddeilydd swydd reoli llif gwaith yr adran a chysylltu â staff ar draws y Coleg yn rheolaidd.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Weithio fel aelod effeithiol a hyblyg o'r tîm er mwyn darparu gwasanaeth cyfieithu effeithlon a chywir i holl staff Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.
- Rheoli'n effeithiol holl ofynion cyfieithu'r Coleg, yn academaidd ac yn weinyddol hefyd, o Saesneg i'r Gymraeg ac i'r gwrthwyneb gan ddefnyddio'r system ceisiadau cyfieithu ar-lein fewnol.
- Cydlynu llwyth gwaith cyfieithwyr eraill yn y tîm
- Prawfddarllen samplau o waith a gyfieithwyd gan y tîm at ddibenion sicrhau ansawdd
- Cydlynu'r gwaith o gyfieithu deunyddiau ar lefel ieithyddol briodol yn dibynnu ar y gynulleidfa darged.
- Cyfieithu ar y lefel uchaf, gan wirio a phrawfddarllen cyn dychwelyd.
- Bod yn aelod o Grŵp Iaith Gymraeg y Coleg, gan roi cyngor a chymorth yn ôl yr angen, ac o unrhyw grŵp coleg arall a bennir gan y Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell a Safonau'r Gymraeg.
- Sicrhau cysondeb ym mhob cyfieithiad a gynhyrchir o ran terminoleg a safonau, i'w defnyddio yn fewnol ac yn allanol hefyd.
- Ymateb i geisiadau cyfieithu a dderbynnir trwy e-bost a throsglwyddo'r rhain i'r system electronig fewnol.
- Defnyddio ei sgiliau ymchwil er mwyn ymchwilio'n effeithiol i'r cyfieithiad o ran termau newydd, anghyfarwydd neu dermau technegol
- Bod yn gymwys wrth ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu. Mae'r Coleg yn defnyddio Wordfast.
- Cysylltu â cholegau eraill yng Nghymru ac asiantaethau allanol ar ddatblygiadau sy'n ymwneud â'r gwasanaeth fel a nodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.
- Gweithredu fel cydlynydd ar gyfer unrhyw gyfieithu allanol pe bai'r angen yn codi i ni ddefnyddio gwasanaethau allanol ac, o bryd i'w gilydd, prawfddarllen gwaith sydd wedi'i gyfieithu gan staff y tu allan i'r uned i sicrhau cysondeb ac ansawdd.
- Cysylltu â staff mewnol y Coleg yn ôl yr angen i drafod manylion eu ceisiadau
- Bod yn gyfrifol am archebu adnoddau'r Uned Gyfieithu.
- Cynorthwyo'r Coleg wrth hyrwyddo a chynnal ei ethos dwyieithog o ran defnyddio'r Gymraeg trwy ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr, sydd ar gael yn eang i bawb.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur âgradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Gradd neu gymhwyster ôl-raddedig yn y Gymraeg
- Aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (os nad yn aelod ar hyn o bryd - dylid cyflawni
aelodaeth o fewn 12 mis o ddechrau yn y swydd) - Profiad perthnasol o gyfieithu (gwell byth yn y sector addysg)
- Profiad o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol
- Profiad o ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu
- Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG gan gynnwys Google Suite
- Sgiliau ymchwilio da
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Lefel uchel o gywirdeb personol a chyfrinachedd
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Sgiliau cyflwyno da
- Profiad o reoli cyfleuster cyfieithu
- Profiad o ddefnyddio meddalwedd cyfieithu Wordfast
- Profiad fel cyfieithydd Ar y Pryd
- Dealltwriaeth o ddatblygiadau mewn AB ac AU
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 4
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 4
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein