MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Astudiaethau Ceffylau a delir fesul awr

Coleg Penybont

Cyflog: Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)

Darlithydd Astudiaethau Ceffylau a delir fesul awr

Noder, contract a delir yn ôl yr awr yw hon, sy'n golygu na ellir gwarantu dyddiau ac oriau penodol - fe'u cynigir ar sail achlysurol, ad hoc, i fodloni anghenion y gwasanaeth, felly gallant amrywio.

Digymhwyster: £24,049 - £28,381 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)
Cymwysedig: £30,620 - £47,331 y flwyddyn (pro rata, tȃl fesul awr)

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm Astudiaethau Ceffylau angerddol a brwdfrydig yng Ngholeg Penybont. Fel Darlithydd Astudiaethau Ceffylau a delir fesul awr byddwch yn cynllunio, yn datblygu, yn darparu ac yn gwerthuso cynnwys cwricwlwm y rhaglenni dysgu gan ddarparu hyfforddiant rhagorol ar draws ystod o raglenni llawn a rhan-amser.

Byddwch yn gymwys mewn ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â Cheffylau, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol ac yn meddu ar brofiad o weithio yn y Diwydiant Ceffylau. Byddwch yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfatebol mewn maes pwnc perthnasol ynghyd ag o leiaf naill ai; Y Dystysgrif Addysgu Ragarweiniol BHSPI, BHSAI gan gynnwys Tystysgrif Hyfforddi Lefel 2 y DU neu hyfforddwr achrededig BD BE neu SJ (Tystysgrif Hyfforddi DU) ac

yn meddu ar Dystysgrif TAR, neu byddwch yn barod i gyflawni hyn. Mae cymwysterau BHS hyd at lefel 3 yn ddelfrydol. Gyda sgiliau rhyngbersonol ardderchog a'r gallu i uniaethu â phoblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr byddwch yn frwdfrydig dros gymell pob dysgwr.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Athro Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.