MANYLION
  • Lleoliad: Pencoed,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £23,151 y flwyddyn (pro-rata) - £12 yr awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £23,151 y flwyddyn (pro-rata) - £12 yr awr

Glanhawr

Campws Pencoed

Graddfa Gyflog 1: £23,151 y flwyddyn (pro-rata) - £12 yr awr

22.5 Awr yr Wythnos, Dydd Llun - Dydd Gwener

4:00yb - 8:30yb / 3:00pm - 7.30pm

Parhaol

Byddwch yn ymgymryd â gweithrediadau glanhau rheolaidd ar ein Campws Pencoed i sicrhau fod y Coleg wedi'i glanhau i safon uchel o fewn eich adran. Byddwch yn deall y proses o lanhau a bydd gennych safon dda o addysg, ac yn gallu gweithio heb oruchwyliaeth. Mae'r gallu i gynllunio'n effeithiol a gweithio fel rhan o dîm yn angenrheidiol.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.