MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £29,269.00 - I: £31,364.00
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Cyn Ysgol Dechrau'n Deg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £29,269.00 - I: £31,364.00

Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Iau 7 Tachwedd 2024

Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2025

Wedi'i leoli yn: Seren Bach Cyn-ysgol ond efallai y bydd yn ofynnol iddo weithio yn unrhyw un o ddau ddarpariaethau Dechrau'n Deg yr Awdurdod Lleol

Oriau: 32.5 awr (39 wythnos a 3 diwrnod y flwyddyn)
Cyflog: Gradd 5 SCP 18-22= £29,269 - £31,364 y flwyddyn pro rata

Bydd yr Arweinydd Cyn-ysgol yn ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol yn y lleoliad i hyrwyddo darpariaeth o ansawdd uchel i blant ac i sicrhau chwarae diogel ac ysgogol i bob plentyn unigol. Bydd yr Arweinydd yn gyfrifol am reoli staff yn llinell ac am bob plentyn, gan gynnwys y plant hynny ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n mynychu'r lleoliad. Bydd disgwyl i'r arweinydd hefyd fodloni'r gofynion a nodir yn y cytundebau gwasanaeth gyda Dechrau'n Deg.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Amy Lewis / Sarah Ostler ar 01685 725000.

Rhaid i bob gweithiwr newydd gwblhau cwrs Gwaith Cymraeg arlein 10 awr. Rhaid cwblhau rhan 1 a 2 o'r cwrs a dangos tystiolaeth o hyn cyn dechrau gweithio gyda'r Awdurdod. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau'r cwrs hwn ewch i: https://learnwelsh.cymru/work-welsh/work-welsh-courses/work-welsh-taster-courses/

MEINI PRAWF HANFODOL
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol

Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 29.10.2024 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad cau.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na'r rheini a gyflwynir yn Saesneg.

Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.