MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth, SY23 3BP
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £10,874 - £13,015 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Gwaith (Llwybr 4 ILS)

Coleg Sir Gar

Cyflog: £10,874 - £13,015 / blwyddyn

Hyfforddwr Gwaith (Llwybr 4 ILS)
Application Deadline: 23 October 2024

Department: Gwasanaethau Cymunedol a Phroffesiynol

Employment Type: Contract Cyfnod Penodol

Location: Campws Aberystwyth

Reporting To: Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol a Phroffesiynol

Compensation: £10,874 - £13,015 / blwyddyn

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol ac arloesol chwarae rôl bwysig yn natblygiad darpariaeth Llwybr 4 o ddydd i ddydd yng Ngholeg Ceredigion trwy gefnogi a siapio interniaid i ddiwallu anghenion ein cyflogwyr lleol.

Bydd yr holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r rôl hon yn golygu cydweithio helaeth ag ystod eang o fudd-ddeiliaid. Mae natur y gwasanaethau sy'n gysylltiedig yn debygol o newid dros amser, gan adlewyrchu anghenion amrywiol dysgwyr a chyfleoedd newydd wrth iddynt godi. Bydd yn ofynnol i ddeilydd y swydd weithio gyda'r tîm ILS ehangach ac fe fydd yn chwaraewr allweddol yn natblygiad a gweithrediad darpariaeth Llwybr 4 yng Ngholeg Ceredigion.

Lleolir y swydd ar Gampws Aberystwyth, ond bydd yn golygu teithio i weithio ochr yn ochr ag interniaid yn eu gwaith bob dydd.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • Weithio gydag interniaid gan ddefnyddio dulliau asesu arbenigol, nodi cyrchnodau; cysylltiedig â gwaith, dewisiadau swyddi, rhwystrau i gyflogaeth ac anghenion cymorth;
  • Cydlynu a darparu gweithgareddau'n gysylltiedig â chyn-cyflogaeth;
  • Cynhyrchu cwricwlwm addas, gan gynnwys elfennau achrededig os yw hyn yn cefnogi dilyniant dysgwyr;
  • Cynorthwyo gyda nodi cyfleoedd gwaith ar gyfer interniaid;
  • Cysylltu â chyflogwyr a thrafod cyflogaeth gynaliadwy â thâl, treialon gwaith, lleoliadau gwaith neu gyfleoedd gwirfoddoli;
  • Monitro a chofnodi cynnydd dysgwyr yn erbyn targedau ac ychwanegu dyletswyddau neu dasgau pellach i drefn ddyddiol/wythnosol yr intern i wella dysgu a hunanddatblygiad;
  • Creu dadansoddiad anghenion i'r interniaid ar gyfer bod yn barod ar gyfer lleoliad;
  • Mentora interniaid trwy gysylltu'n rheolaidd â'r cyflogwr;
  • Hwyluso ymglymiad teuluol trwy e-byst, trwy ffonio ac wyneb yn wyneb;
  • Cynorthwyo interniaid gyda chynllunio trefniadau teithio i'r gwaith;
  • Trefnu adnoddau ac ystafell ar gyfer gwersi a ddysgir gyda'r coleg ar gyfer interniaid; Cwblhau'r holl waith papur Asesu Risg angenrheidiol;
  • Cwblhau'r hyfforddiant perthnasol a phrosesau'n gysylltiedig â lleoliadau interniaid;
  • Sicrhau bod interniaid yn cwblhau'r hyfforddiant perthnasol a phrosesau'n gysylltiedig â'u lleoliad;
  • Sicrhau bod interniaid yn cael eu goruchwylio bob amser yn eu lleoliad gwaith;
  • Hyrwyddo buddion recriwtio gweithlu amrywiol i gyflogwyr;
  • Sicrhau bod manylion dysgwyr unigol yn cael eu cadw'n gyfoes a chadw cofnodion o gynnydd dysgwyr;
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
  • Profiad perthnasol
  • Dealltwriaeth o faterion perthnasol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol
  • Gweithio'n effeithiol gyda dysgwyr ag ADY
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau dadansoddi da
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Sgiliau cyflwyno da
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys
  • Y gallu i arddangos hyder a sefydlu perthnasoedd cadarnhaol
  • Y gallu i deithio i gampysau eraill a digwyddiadau diwydiant
Dymunol:
  • HNC/D neu Radd
  • Profiad o olrhain a monitro
  • Profiad o ofal bugeiliol dysgwyr
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein