MANYLION
- Lleoliad: Llanelli, Carmarthenshire, SA15 4DN
- Testun: Cymorth
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
This job application date has now expired.
Campws Rhydaman & Campws Graig
37 awr yr wythnos (Dydd Llun – Dydd Iau 08:4 5– 17:00 & Dydd Gwener 08:45 – 16:30)
Parhaol - Amser tymor yn unig
Dyddiad Cai: 28/03/2022
Mae'r coleg yn dymuno cyflogi Cynorthwy-ydd Llyfrgell sydd yn rôl amrywiol a diddorol a fydd yn golygu gweithio fel rhan o faes swyddogaethol prysur. Mae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i berson rhagweithiol, hyblyg a dyfeisgar.
Mae Llyfrgelloedd ar chwech allan o saith campws y coleg sy'n cynnig ystod eang o adnoddau electronig yn ogystal â stoc lyfrau sylweddol. Maent yn darparu gwasanaeth i fyfyrwyr sydd yn dilyn amrywiaeth o gyrsiau addysg bellach ac uwch. Bydd angen i'r ymgeisydd delfrydol ennyn brwdfrydedd a chefnogi ystod amrywiol o ddysgwyr wrth ddefnyddio'r holl adnoddau a datblygu eu sgiliau digidol ac astudio ehangach. Mae'r rôl yn amrywiol iawn a bydd yn cynnwys goruchwylio dysgwyr sydd yn gweithio yn y llyfrgell, ymgymryd â gwaith sy'n ymwneud â darparu a chynnal a chadw deunyddiau dysgu a rhaglenni TG, cynorthwyo gyda darparu gwasanaeth ymholiadau gan gynnwys defnyddio ffynonellau gwybodaeth electronig ynghyd â thasgau eraill yn ymwneud â'r llyfrgell. Mae angen sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog ynghyd â llygad am fanylder a sgiliau gweinyddol gofalus iawn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus roi'r dysgwr wrth wraidd pob peth mae’n ei wneud.