MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,111 Codiad cyflog i ddod - £24,717 Codiad cyflog i ddod
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Diogelwch CC/2710

Coleg Cambria

Cyflog: £24,111 Codiad cyflog i ddod - £24,717 Codiad cyflog i ddod

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Diogelwch

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Llawn Amser, Parhaol

Cyflog: £24,111 - £24,717

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Swyddog Diogelwch ymroddedig i ddiogelu ein sale Glannau Dyfrdwy, gan sicrhau diogelwch ein myfyrwyr, staff, ymwelwyr ac asedau. Mae'r swydd hon yn cynnwys cynnal presenoldeb diogelwch gweladwy a rhagweithiol trwy batrolau rheolaidd, monitro systemau gwyliadwriaeth, a rheoli mannau mynediad. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymateb i argyfyngau a digwyddiadau, gan atal mynediad heb awdurdod a rhwystro gweithgaredd troseddol yn ogystal â chynnal amgylchedd diogel trwy reoli gwrthdaro yn effeithiol ac adrodd ar ddigwyddiadau.

Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys cynnal patrolau trylwyr ar dir y safle, rheoli mannau mynediad, a chynorthwyo mewn sefyllfaoedd brys megis tanau neu ddigwyddiadau meddygol. Bydd y Swyddog Diogelwch yn gweithredu systemau TCC, yn ymdrin ag ymchwiliadau sy'n ymwneud â diogelwch, ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau'r safle, gan fynd i'r afael yn effeithiol â materion fel camymddwyn, defnyddio sylweddau, a mynediad heb awdurdod. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys darparu cymorth cyntaf pan fo angen a chydlynu'r trefniadau gwacáu mewn argyfwng gyda'r awdurdodau perthnasol.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio rhwng gwahanol safleoedd Coleg Cambria a chymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol. Os ydych chi wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel, croesawgar ac yn fedrus mewn gweithrediadau diogelwch, rheoli gwrthdaro, ac ymateb brys, rydyn ni'n eich annog chi i wneud cais.

Gofynion Hanfodol
  • Trwydded Bersonol Awdurdod y Diwydiant Diogelwch
  • Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
  • Profiad o weithio mewn swydd diogelwch, o fewn lleoliad addysgol neu sefydliad tebyg
  • Sgiliau datrys problemau effeithiol er mwyn asesu sefyllfaoedd yn gyflym a phennu'r camau priodol i'w cymryd

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig