MANYLION
- Lleoliad: Nantgarw Campus,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £27,588 - £33,405
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Hydref, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £27,588 - £33,405
Hyforddwr Bugeiliol (Adeiladu)Swydd ddisgrifiad
Am y rôl:
Cynorthwyo a chefnogi dysgwyr i gyflawni eu targedau yn yr adran Adeiladu, gan sicrhau eu bod yn cael eu paratoi ar gyfer cam nesaf eu haddysg, eu hyfforddiant neu eu cyflogaeth ac y cyrchir cyrchfannau uchel eu hansawdd. Delio â phroblemau a phryderon dysgwyr yn effeithiol, gan gynnwys materion yn ymwneud â phresenoldeb, prydlondeb, symbyliad ac agwedd tuag at ddysgu, er mwyn hyrwyddo hinsawdd positif a gofalgar.
Gwybodaeth Bellach:
Mae angen i staff a gyflogir yng Ngholeg y Cymoedd fod yn gyfrifol am ddiogelu ac am hyrwyddo lles y dysgwr.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae'r Coleg yn gofyn amdanyn nhw, naill ai yn eich prif weithle neu yn adeiladau eraill y Coleg, sy'n gymesur â gradd a chyfrifoldebau'r rôl.
Cydnabyddir y gall dyletswyddau a chyfrifoldebau pob swydd newid o bryd i’w gilydd a gellir diwygio disgrifiadau swydd mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd i adlewyrchu’r newidiadau hynny sy’n gymesur â’r rôl.
Canllawiau Cais:
Yn unol â Pholisi Recriwtio’r Coleg, byddwn yn defnyddio’r Fanyleb Person i greu rhestr fer o blith yr ymgeiswyr. Dylech gynnig tystiolaeth o sut rydych yn bodloni’r holl Feini Prawf Hanfodol a amlinellir yn y Fanyleb Person, a’r Meini Prawf Dymunol os yw hynny’n berthnasol. Dylech gynnig tystiolaeth ysgrifenedig ar sut rydych yn bodloni pob un o’r Meini Prawf Hanfodol (a Dymunol os yw hynny’n berthnasol). Yn yr adran ‘Gwybodaeth Bellach’, dylech nodi tystiolaeth am sut rydych yn bodloni’r meini prawf yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y Fanyleb Person.
Noder, mae Coleg y Cymoedd yn arddel yr hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os bydd digon o geisiadau yn dod i law
Cyswllt:
Am unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected] .uk