MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,850 - £39,375 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Rheolwr Cynorthwyol Caffael

Coleg Sir Gar

Cyflog: £33,850 - £39,375 / blwyddyn

Rheolwr Cynorthwyol Caffael
Application Deadline: 22 October 2024

Department: Cyllid

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Graig

Reporting To: Rheolwr Caffael

Compensation: £33,850 - £39,375 / blwyddyn

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno a'n tîm caffael deinamig sy'n ehangu o fewn y Grŵp PCYDDS. Cynlluniwyd y rôl i symud ymlaen y gweithgareddau caffael wrth wasanaethu hefyd fel dirprwy allweddol i'r Rheolwr Caffael, gyda chyfrifoldebau sy'n cynnwys dirprwyo pan fo angen a chyfrannu at benderfyniadau lefel-uchel.

Cyfrifoldebau AllweddolMae'r rôl allweddol hon yn golygu cydweithio'n agos gyda'r Rheolwr Caffael i oruchwylio cydymffurfiad â pholisïau caffael a rheoliadau ariannol y grŵp, tra'n rheoli'r gwaith o ddarparu cefnogaeth o ran caffael a rheoli contractau'n gadarn. Mae'r swydd yn cynnig cwmpas eang ac yn gofyn am hyblygrwydd a chreadigrwydd i gynnig gwasanaeth neilltuol i amrywiol adrannau, sefydliadau, a chysylltiadau allanol, yn aml dan derfynau amser tynn. Mae dyletswyddau'n cynnwys dirprwyo ar gyfer y Rheolwr Caffael mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol, gan gynnwys digwyddiadau HEPCW/CPC, yn ôl yr angen. Bydd deilydd y swydd yn chwarae rôl arwyddocaol o ran cynllunio, gweithredu a rheoli prif gontractau gyda chyflenwyr, mynd i'r afael â chamau caffael a risgiau masnachol, gan sicrhau gwerth am arian wrth greu cyfleoedd ar gyfer arbedion.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad mewn amgylchedd swyddfa yn cyflawni dyletswyddau caffael, gyda phrofiad profedig o oruchwylio staff a drafftio manylebau. Mae sgiliau hanfodol yn cynnwys gwybodaeth gaffael gref, sgiliau TG a threfniadol ardderchog, a sylw trylwyr i fanylion. Dylai fod ganddo'r gallu i reoli ei lwyth gwaith yn effeithlon, gan gynnal safonau uchel dan bwysau, a thrin galwadau sy'n gwrthdaro mewn modd effeithiol.

Mae sgiliau cyfathrebu effeithiol gydag ystod o fudd-ddeiliaid, yn fewnol ac yn allanol i'r grŵp hefyd, yn hanfodol. Dylai'r ymgeisydd allu gweithio'n hyblyg dan bwysau gyda chyn lleied â phosibl o oruchwyliaeth, defnyddio ei fenter ei hun i reoli amryfal dasgau a phenderfynu ar flaenoriaethau i gwrdd â therfynau amser, a dangos parodrwydd i ddysgu a chymhwyso systemau newydd.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Cofrestredig gyda CIPS neu ar hyn o bryd yn astudio neu wedi cytuno astudio o fewn 12 mis i gyflogaeth diploma mewn Caffael a Chadwyn gyflenwi
  • Dealltwriaeth o Ddeddfwriaeth Caffael Cyhoeddus gan gynnwys profiad o gynnig cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid neu faterion cydymffurfio perthynol;
  • Hanes profedig o reoli prosiectau gwerth-uchel o ddichonoldeb i weithrediad ar draws ystod o nwyddau a gwasanaethau
  • Profiad o greu dogfennaeth a darparu hyfforddiant cysylltiedig;
  • Sgiliau trefniadol effeithiol a sylw amlwg i fanylion
  • Sgiliau dadansoddol gallu mewnbynnu, echdynnu a thrin data, gan gyfrannu at adroddiadau ystadegol;
  • Sgiliau TG neilltuol, gan gynnwys hyfedredd uwch mewn Excel
  • Gallu asesu canlyniadau a chynhyrchu adroddiadau lefel-uchel;
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth ag eraill.
  • Ymagwedd gadarnhaol tuag at ddysgu a datblygu
  • Dangos hunan-gymhelliant a'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth
  • Gallu i deithio i bob campws a chyfarfodydd budd-ddeiliaid
Dymunol:
  • Aelod Corfforaethol llawn o'r Sefydliad Siartredig Pwrcasu a Chyflenwi
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd caffael
  • Profiad gydag amrywiaeth o offer a thechnegau'n ymwneud â chaffael, gan gynnwys rheoli categori a galw, gwerthuso gwerthwr, lleoli cyflenwad, ac arferion caffael cynaliadwy.
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein