MANYLION
  • Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: £21.49 - £42.28 / awr
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Darlithydd Achlysurol mewn Bricwaith

Coleg Sir Gar

Cyflog: £21.49 - £42.28 / awr

Darlithydd Achlysurol mewn Bricwaith
Department: Adeiladu

Employment Type: Dim Oriau

Location: Campws Rhydaman

Compensation: £21.49 - £42.28 / awr

DescriptionYdych chi'n friciwr medrus sydd am ddatblygu gyrfa ym myd addysgu? Ydych chi eisoes yn athro bricwaith sy'n chwilio am rôl newydd? Mae gan Goleg Sir Gâr gyfle cyffrous ar gyfer Darlithydd Achlysurol mewn Bricwaith, wedi'i leoli ar ein Campws yn Rhydaman. Dyma gyfle gwych i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yng Ngholeg Sir Gâr.

Mae'r rôl hon am tua 12 awr yr wythnos.Mae maes cwricwlwm yr Amgylchedd Adeiledig yn rhan o'r Gyfadran Adeiladu ac Amaethyddiaeth ac mae ganddo 340 o ddysgwyr llawn amser a 350 o brentisiaid a dysgwyr rhan-amser, gyda'r rhan fwyaf o'r addysg a hyfforddiant sydd yn ymwneud ag adeiladu'n cael ei gyflwyno ar Gampws Rhydaman.

Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys crefftau adeiladu, crefftau gwaith plymwr a chrefftau trydanol, cyrsiau technegydd adeiladu a rheolaeth. Yn ogystal mae'r cwricwlwm yn cyflwyno cymwysterau adeiladu Lefel 2 i dros 300 o ddisgyblion ysgol blwyddyn 10 ac 11 ar gampws Rhydaman ac yn y Ganolfan Sgiliau Galwedigaethol bwrpasol yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli.

Mae maes cwricwlwm yr Amgylchedd Adeiledig hefyd yn cynnig ystod eang o gyrsiau byr sy'n cynnig darpariaeth deilwredig i ddiwallu anghenion cyfredol y diwydiant a'i anghenion yn y dyfodol. Mae'r adran Amgylchedd Adeiledig yn parhau i dderbyn llawer o anrhydeddau a gwobrau am ei deilliannau dysgu, ei chyswllt â chyflogwyr a'i rhaglenni arloesol. Mae cyfranogiad gan y maes cwricwlwm mewn cystadlaethau sgiliau hefyd wedi'i ymgorffori'n dda gyda dysgwyr yn ennill nifer o fedalau mewn amrywiol gystadlaethau sgiliau.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?Fel darlithydd mewn bricwaith, byddwch yn gyfrifol am addysgu ansawdd uchel ac asesu dysgwyr ar ein rhaglenni astudio. Byddwch yn cysylltu â budd-ddeiliaid trydydd parti, gan gynnwys cynghorau sgiliau sector, cyrff diwydiannol, ysgolion partner, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch eraill.

Byddwch yn sicrhau bod eich dysgwyr yn cael y profiad gorau posibl gydag amgylchedd dysgu cynhwysol sy'n hyrwyddo ymgysylltiad, cyfranogiad a llwyddiant dysgwyr.

Beth sydd angen arnoch chi?Byddai cymhwyster addysgu yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol. Os nad oes gennych gymhwyster addysgu, ond profiad diwydiannol perthnasol yn ymwneud â bricwaith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Efallai y gallwn eich cefnogi i ennill eich cymhwyster addysgu tra'ch bod wedi eich cyflogi gennym.

Bydd angen cymwysterau perthnasol mewn bricwaith arnoch a phrofiad o addysgu/mentora eraill. Nid oes rhaid i hyn fod yn brofiad o fewn amgylchedd ystafell ddosbarth. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol arnoch, rhaid i chi fod yn drefnus iawn, ac mae angen i chi fod yn frwd iawn dros eisiau gwneud gwahaniaeth i eraill.

Beth i'w wneud nesaf?Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch gopi o'ch CV atom a bydd naill ai aelod o'r tîm cwricwlwm neu'r tîm recriwtio mewn cysylltiad. Os hoffech wybod mwy am y rôl, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.