MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £35,228.00 - I: £39,341.00
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Seicolegydd Addysg Cynorthwyol - Dechrau'n Deg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyflog: £35,228.00 - I: £39,341.00

Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025
gyda'r farn y bydd cyflogaeth yn parhau y tu hwnt i'r pwynt hwn yn amodol ar dderbyn y Cynnig Grant - byddem yn croesawu trafodaeth ar hyd y contract gan unigolion sydd â diddordeb - yn y lle cyntaf cysylltwch â Laurie.Davies@merthyr.gov.uk

Soulbury 2-4 £35,228 - £39,341 y flwyddyn pro rata

Cynorthwyo i ddarparu Gwasanaethau Seicoleg Addysgol i blant a'u teuluoedd, gan ganolbwyntio'n benodol ar blant 0-4 oed. Helpu i ddarparu gwasanaethau seicolegol i deuluoedd, lleoliadau blynyddoedd cynnar, cymunedau lleol ac asiantaethau eraill.

Gweithio mewn ymgynghoriad ag ystod o weithwyr proffesiynol i ddatblygu strategaethau ymyrraeth a fydd yn gwella ansawdd bywydau, dysgu a lles plant a theuluoedd. O dan oruchwyliaeth yr Uwch SA Arbenigol Dechrau'n Deg, bydd hyn yn cefnogi'r broses asesu a'r ymyrraeth gyda phlant, eu teuluoedd, a chydweithio â gweithwyr proffesiynol i awgrymu ymyriadau i sicrhau newid.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Sarah Ostler ar 01685 725000.

Rhaid i bob gweithiwr newydd gwblhau cwrs Gwaith Cymraeg arlein 10 awr. Rhaid cwblhau rhan 1 a 2 o'r cwrs a dangos tystiolaeth o hyn cyn dechrau gweithio gyda'r Awdurdod. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau'r cwrs hwn ewch i: https://learnwelsh.cymru/work-welsh/work-welsh-courses/work-welsh-taster-courses/

MEINI PRAWF HANFODOL
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol

Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 31.10.2024 i'r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad cau.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na'r rheini a gyflwynir yn Saesneg.

Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i'r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo'n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu'r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o'n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.