MANYLION
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol - Ysgol Bro Myrddin
Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 794
Sefydliad: Ysgolion
Adran: Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Caerfyrddin
Gradd: Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyflog o: £49,213
Cyflog i: £49,213
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm
Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
(cytundeb llawn amser a pharhaol)
Ar gyfer mis Ionawr 2025 neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny
Cyflog: L8-L12
Mae'r llywodraethwyr yn dymuno penodi unigolyn angerddol a brwdfrydig i ymuno â ni fel ein CADY. Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol ymroddedig a threfnus, ac a fydd yn arwain tîm o staff i sicrhau bod ein disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn gwneud cynnydd da neu well mewn perthynas â'u pwyntiau cychwyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod darpariaeth ADY yn cael ei reoli'n effeithlon ac yn effeithiol, i sicrhau bod pob disgybl ag ADY yn cael ei gefnogi i oresgyn rhwystrau rhagdysgu a'u bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn, gan sicrhau cynllunio a darparu cymorth effeithiol ar gyfer disgyblion ag ADY, a gosod anghenion, barn, dymuniadau a theimladau'r disgyblion wrth wraidd y broses.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar weledigaeth ac uchelgais ac yn addysgwr rhagorol ac angerddol. Bydd yn medru cydweithio'n effeithiol gyda'r holl rhanddeiliaid gan osod esiampl gadarnhaol i staff a disgyblion.
Mae'n hanfodol hefyd bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn medru cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig ynghyd â dangos ymrwymiad amlwg tuag at weithio mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.
Rhestrir prif fanylion cyfrifoldebau'r swydd yn y pecyn cais ar Eteach.
Os yn dymuno cael sgwrs bellach neu i drefnu ymweliad â'r ysgol cysyllter â Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol sian.thomas@bromyrddin.org
Cais i gyrraedd Miss Siân Thomas, Clerc y Corff Llywodraethol sian.thomas@bromyrddin.org erbyn canol dydd 23ain o Fedi 2024.
Cyfweliadau: wythnos yn dechrau 30ain o Fedi 2024.
Disgrifiad Swydd: 034328.pdf - 380KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 30 Medi 2024
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 23/09/2024, 12:00
Y Buddion
Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.

- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd