MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £33,850 - £39,375 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Ymgysylltu â Phartneriaid a Chyfathrebu Digidol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £33,850 - £39,375 / blwyddyn

Swyddog Ymgysylltu â Phartneriaid a Chyfathrebu Digidol
Application Deadline: 22 October 2024

Department: Ysbrodoli Rhagoriaeth Sgiliau

Employment Type: Dros dro

Location: Campws Graig

Compensation: £33,850 - £39,375 / blwyddyn

DescriptionMae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.

Ar ran Llywodraeth Cymru, mae'r Coleg yn rheoli'r prosiect “Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru” ar y cyd â'r Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau - rhwydwaith pwrpasol o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr.

Bydd y Swyddog Ymgysylltu â Phartneriaid a Chyfathrebu Digidol yn gyfrifol am reoli perthnasoedd â budd-ddeiliaid allweddol i wneud yn siŵr y caiff allbynnau prosiect eu cyflwyno i safon uchel, gan sicrhau ymagwedd gydweithredol i'w ddatblygiad a'i gyflwyniad, mewn partneriaeth ag addysg a diwydiant.

Mae'r rôl hon yn cynnwys datblygu a rhoi cynlluniau strategol ar waith, cydlynu ymgysylltiadau a goruchwylio datblygiadau yn y dyfodol, gan sicrhau llwyddiant cyffredinol y prosiect.

Bydd y swydd yn golygu teithio helaeth ar draws Cymru, gan ofyn am hyblygrwydd mewn oriau gwaith a bydd yn arwain at weithio gydag ystod o fudd-ddeiliaid.

Cyfrifoldebau AllweddolPwrpas y rôl hon yw rheoli perthnasoedd â budd-ddeiliaid allweddol i wneud yn siŵr y caiff allbynnau prosiect eu cyflwyno i safon uchel, gan sicrhau ymagwedd gydweithredol i'w ddatblygiad a'i gyflwyniad, mewn partneriaeth ag addysg a diwydiant.

Bydd disgwyl i'r Swyddog Ymgysylltu â Phartneriaid a Chyfathrebu Digidol:

Ddatblygu a chyflwyno'r Rhaglen Datblygu Rhagoriaeth
  • Cynorthwyo'r cyflwyniad a monitro allbynnau'r prosiect sy'n benodol i Ddatblygu Rhagoriaeth er mwyn sicrhau y caiff Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) eu bodloni;
  • Dadansoddi data, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gyda ffocws ar ddata'n gysylltiedig â chystadleuaeth i gefnogi'r Rhaglen Datblygu Rhagoriaeth
  • Cymryd rôl arweiniol o ran sefydlu seilwaith yng Nghymru sy'n dal ac yn rhannu arfer gorau ar draws y Rhaglen Datblygu Rhagoriaeth
  • Cynorthwyo gyda'r cyllidebau cyflwyno a'r gwaith adrodd, yn benodol i'r rhaglen Datblygu Rhagoriaeth
  • Cefnogi'r gwaith o gynllunio digwyddiadau ar draws y rhaglen Datblygu Rhagoriaeth
  • Cydlynu adnoddau i sicrhau gweithrediad di-drafferth y rhaglen Datblygu Rhagoriaeth
  • Cydlynu'r gwaith o drefnu a chyflwyno Marc Ansawdd Ymarferwyr Arbenigol mewn Ysbrydoli Sgiliau gan hyrwyddo rhagoriaeth sgiliau trwy weithgareddau cystadleuol.
  • Darparu cefnogaeth i bartneriaid cyflwyno i godi safon ac ansawdd cyfleoedd dysgu seiliedig ar gystadleuaeth.
  • Cymryd rôl arweiniol o ran cydweithio â budd-ddeiliaid allweddol, sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) a diwydiant, er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau yn y dyfodol a chodi safonau ar draws Addysg a Hyfforddiant
Datblygu partneriaethau corfforaethol
  • Gyda chefnogaeth y rheolwyr prosiect, datblygu strategaeth nawdd ar gyfer gweithgareddau ar draws y prosiect, gan ganolbwyntio'n arbennig ar Gystadleuaeth Sgiliau Cymru
  • Gweithio'n agos gyda phartneriaid cystadleuaeth y prosiect i nodi cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad pellach gan bartneriaid busnes.
  • Nodi cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio a nawdd a throsi cyfleoedd ar gyfer croes-werthu ac uwch-werthu
  • Meithrin a chynnal perthnasoedd cryf gyda phartneriaid corfforaethol
  • Paratoi cynigion perswadiol ac argyhoeddiadol am nawdd i ddenu cefnogaeth gorfforaethol.
  • Cynrychioli'r prosiect mewn digwyddiadau rhwydweithio, cynadleddau, a chynulliadau diwydiant
Marchnata, Cyfathrebu a Digwyddiadau
  • Gweithio fel rhan o'r tîm ar strategaeth farchnata'r prosiect er mwyn cyflawni ymgysylltiad effeithiol budd-ddeiliaid
  • Chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo enw da'r prosiect Ysbrydoli Sgiliau a chodi ei broffil trwy sianeli cyfathrebu dwyieithog lluosog;
  • Cynllunio, datblygu a gweithredu ymgyrchoedd marchnata ar gyfer gweithgareddau ar draws y prosiect
  • Datblygu cynnwys sy'n gymhellol ac yn ennyn diddordeb yn y Gymraeg a Saesneg, a all fod yn amlbwrpas ar draws yr holl sianeli cyfryngau cymdeithasol a'i ddefnyddio yn y dull mwyaf effeithiol ar y we ar gyfer ystod eang o gynulleidfaoedd megis; pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a nifer o sectorau diwydiant.
  • Dod o hyd i asiantaethau marchnata a chyfathrebu a'u contractio i gynorthwyo gydag allbynnau ymgyrchoedd marchnata
  • Sicrhau bod yr holl gynnwys yn gywir ac yn unôl â'r arddull tŷ y cytunwyd arno, a safonau'r Gymraeg.
  • Sefydlu a chynnal rhwydwaith o weithwyr proffesiynol marchnata a chyfathrebu ar draws addysg a hyfforddiant yng Nghymru
  • Cynorthwyo gyda monitro a chynhyrchu adroddiadau ymgyrchoedd marchnata i olrhain perfformiad a metrigau
  • Cynorthwyo gyda'r cyllidebau cyflwyno a'r adrodd, yn benodol i farchnata, cyfathrebu a digwyddiadau
  • Cadw gwybodaeth yn gyfoes a rhannu arfer gorau marchnata digidol newydd ac arloesol i gyrraedd yr holl fudd-ddeiliaid;
  • Goruchwylio a nodi cyfleoedd i Lysgenhadon Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau gymryd rhan mewn gweithgareddau are draws y prosiect

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddCymwysterau:
  • Addysgedig i lefel Radd neu brofiad addas sylweddol
  • TGAU Saesneg - o leiaf Gradd C
  • TGAU Mathemateg - o leiaf Gradd C
Profiad:
  • Profiad o gynllunio prosiect a'i roi ar waith
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu systemau a phrosesau
  • Profiad o reoli contractau a chyllidebau
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid allanol a mewnol
  • Profiad gweinyddol perthnasol gyda dealltwriaeth dda o apiau Microsoft Office
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o addysg alwedigaethol
  • Profiad o reoli a chyflwyno digwyddiadau
  • Profiad o amrywiaeth o offer marchnata a chyfathrebu gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer gweithgareddau hyrwyddol
Nodweddion Personol:
  • Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
  • Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
  • Y gallu i weithio'n hyblyg, gan weithio gyda'r hwyr ac
  • ar benwythnosau a pharodrwydd i deithio
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau
  • TG yn gymwys
  • Agwedd gadarnhaol tuag at ddatrys problemau
Arall:
  • Y gallu i deithio i ddigwyddiadau cenedlaethol
  • Y gallu i yrru bws mini'r coleg
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2/3
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 1/2
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein