MANYLION
  • Lleoliad: Heronsbridge,
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Prif Raddfa Athro + ADY 1 £2,585 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes ALN - Ysgol Heronsbridge

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: Prif Raddfa Athro + ADY 1 £2,585 y flwyddyn

Athro/Athrawes ALN - Ysgol Heronsbridge
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos

Mae Heronsbridge yn ysgol arbennig a gynhelir ar gyfer plant rhwng 3 ac 19 oed ag anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog ac awtistiaeth.

Mae'r corff llywodraethu yn dymuno penodi athro/athrawes ddosbarth ofalgar, ymrwymedig a brwdfrydig. Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad o weithio gyda disgyblion a chanddynt anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog ac awtistiaeth.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus arfer rhagorol yn yr ystafell dosbarth, gan gynnwys y defnydd o TGCh, disgwyliadau uchel o gyflawniadau ac ymddygiad disgyblion a pharodrwydd i weithio fel rhan o dîm i sicrhau gwella ysgolion.

Croesewir ceisiadau ac ymweliadau â'r ysgol.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 19 Medi 2024

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 23 Medi 2024

Dyddiad y Cyfweliad: 30 Medi 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person