MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £28,374 - £30,908
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £28,374 - £30,908
Disgrifiad SwyddColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Anogwr Gwytnwch
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Llawn amser / Parhaol
Cyflog: £28,374 - £30,908
Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer Anogwr Gwytnwch i weithio ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy.
Bydd yr Anogwr Gwytnwch yn gyfrifol am gynorthwyo ymgysylltiad, datblygiad a dilyniant dysgwyr i ddysgu. Byddan nhw'n arfogi dysgwyr i ymgartrefu yn eu hamgylchedd ac adnabod a goresgyn rhwystrau emosiynol a llesiant a allai eu hatal rhag ymgysylltu'n weithredol.
Byddan nhw'n rheoli llwyth achosion penodol o ddysgwyr ar draws holl safleoedd y coleg, gan ddarparu cymorth a hyfforddiant priodol. Bydd y swydd yn cynnwys hyfforddi uniongyrchol, a chyfeirio dysgwyr at gwnselwyr coleg ac asiantaethau priodol eraill lle bo angen.
O dan gyfarwyddyd yr Arweinydd Iechyd Meddwl a Llesiant, bydd yr anogwr gwytnwch yn gweithio mewn cysylltiad agos â'r Cydlynydd Iechyd Meddwl a Llesiant, Ymgynghorwyr Llesiant, Anogwyr Cynnydd a Gwasanaethau Myfyrwyr.
Yn ogystal, bydd yr holl Anogwyr Gwytnwch yn cael eu lleoli ar draws pob safle i ddarparu pwynt cyswllt i fyfyrwyr a staff ar sail 1:1 gan gynnig hyfforddiant, arweiniad a chymorth.
Sicrhau bod data'n cael ei gofnodi'n gywir a choladu adroddiadau i ddarparu llwybrau archwilio clir i fodloni archwilwyr mewnol/allanol ac arolygiadau.
Gofynion Hanfodol
• Safon dda o addysg (TGAU gradd C neu uwch mewn llythrennedd a rhifedd)
• Cymhwyster Cwnsela Sylfaenol
• Gwytnwch personol ardderchog
• Empathi wrth ymdrin â dysgwyr
• Gallu ymdrin â sefyllfaoedd sensitif
• Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth Diogelu
• Profiad profedig o weithio mewn maes perthnasol.
• Profiad o weithio gyda phobl ifanc
• Gwybodaeth dda o asiantaethau cymorth ar gyfer yr holl ddysgwyr
• Profiad o gynorthwyo dysgwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl
• Sgiliau TGCh da, gan gynnwys pecyn Microsoft a Google
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.
Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar y safle
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai