MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £35,228 - £37,473.
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Awst, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Seicolegydd Addysg Cynorthwyol

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: £35,228 - £37,473.

Seicolegydd Addysg Cynorthwyol

Disgrifiad Swydd
ADDYSG A DYSGU GYDOL OES RHONDDA CYNON TAF

GWASANAETH MYNEDIAD A CHYNHWYSIANT

Seicolegydd Addysg Cynorthwyol

(Dros dro o fis Medi 2024 hyd at fis Awst 2025)

Graddfa Soulbury i Seicolegwyr Addysg Cynorthwyol 2-5

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi Seicolegydd Addysg Cynorthwyol llawn amser i weithio ochr yn ochr â Seicolegydd Addysg cymwys i gefnogi dysgu, datblygiad a lles emosiynol plant a phobl ifainc (0-25).

Bydd gyda chi gyfle i weithio ar y cyd ag ystod o weithwyr proffesiynol i ddatblygu strategaethau fydd yn gwella ansawdd bywydau, dysgu a lles plant, pobl ifainc a theuluoedd. Bydd y swydd, o bosibl, yn cynnwys gwaith prosiect, ymchwil sy'n seiliedig ar weithredu, hyfforddiant, yn ogystal â gwaith uniongyrchol gydag ysgolion.

Bydd y gwaith dydd i ddydd a goruchwyliaeth broffesiynol yn cael eu darparu gan Uwch Seicolegydd Addysg yn y garfan. Bydd ystod o gyfleoedd DPP yn cael eu cynnig gan Wasanaeth Seicoleg Addysg Rhondda Cynon Taf.

Swydd lawn amser dros dro yw hon (tan Awst 2025). Bydd y swyddi ar gael o fis Medi 2024.

Am ragor o wybodaeth a phecyn cais, ewch i'n gwefan www.rhondda-cynon-taf.gov.uk a dilyn y ddolen 'Swyddi a Gyrfaoedd' neu ffonio (01443) 484480/484476. Croeso i chi wneud cais ar-lein.

Mae modd cael sgwrs anffurfiol gyda Dr Rob Kempson, Pennaeth y Gwasanaeth Seicoleg Addysg ar (01443) 744333.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Yn rhan o’i amcanion tymor hir mewn perthynas â’r Gymraeg a’i Strategaeth Cynllunio’r Gweithlu, mae’r Cyngor yn ymrwymo i gynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd sgiliau Cymraeg Lefel 3 neu’n uwch na hynny. Os byddwch chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol fel sydd wedi’u nodi yn y fanyleb person a bod eich sgiliau Cymraeg gyfwerth â Lefel 3 neu’n uwch, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyfweliad os ydych chi’n dymuno bod yn y cynllun.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.