MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,620 - £47,331
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £30,620 - £47,331
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...Teitl y Swydd: Darlithydd Gwaith Brics
Lleoliad: Ffordd y Bers
Math o Gontract: Parhaol, Llawn amser
Cyflog: £30,630 - £47,331 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad
Rydym yn chwilio am Ddarlithydd Gwaith Brics i gyflwyno ein cyrsiau Lefel 2 a 3 mewn Gosod Brics.
I gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon, dylai fod gennych brofiad a chymhwysedd y gellir eu profi mewn Gosod Brics a chymhwyster Lefel 3 o leiaf.
Fel Darlithydd yng Ngholeg Cambria, bydd gofyn i chi ddarparu gwaith dysgu ymarferol ac yn y dosbarth i'n myfyrwyr. Byddwch yn gyfrifol am gofrestru myfyrwyr ar gyrsiau priodol a darparu cyfleoedd hyfforddi, mentora a dysgu yn ogystal â sicrhau diogelwch a lles ein myfyrwyr bob amser.
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
- Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Yn hunan-ysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun
- Mae'n hanfodol bod gennych chi drwydded yrru ddilys a'ch cludiant eich hun.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar y safle
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai