Mae Ffair Gyrfaoedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd i fod i gael ei chynnal ddydd Mawrth 21 Hydref 2025, 10.30yb – 2.30yp yn Arena’r Saethwyr ar Gampws Cyncoed.
Sesiwn wybodaeth mewn partneriaeth ag EYST ac Addysgwyr Cymru
Mae Wythnos Fy Ngyrfa Raddedig yn rhoi cyfle i chi ganolbwyntio ar eich sgiliau, eich profiadau, a'ch dyfodol. Bydd digwyddiadau yn ystod yr wythnos yn caniatáu i chi gwrdd â cyflogwyr o ystod o sectorau gwaith, gwrando ar arbenigwyr yn y diwydiant a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn rhannu eu profiadau o ddatblygu eu gyrfa, a chael cyngor arbenigol ar gynllunio gyrfa, rhwydweithio, ac arferion recriwtio. Mae’r cyfan yn digwydd ar garreg eich drws yma ym Mangor.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am yr Wythnos Fy Ngyrfa Graddedig, cysylltwch â ffairgyrfaoedd@bangor.ac.uk
Ymunwch â ni yn ein Noson Agored TAR i ddarganfod mwy am ein rhaglenni TAR Uwchradd a TAR Cynradd ym Met Caerdydd. Darganfyddwch fwy am y cwrs a’r cyfleoedd cyllido sydd ar gael, cwrdd â darlithwyr a gofyn eich cwestiynau.
Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad ein Cynhadledd Flynyddol a fydd yn digwydd ar 23 Hydref 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
* TUDALEN COFRESTRU AR AGOR *
Bydd Cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar Dwf, Cyfle a Thegwch - a sut y gall y sector addysg bellach ysgogi newid cadarnhaol i ddysgwyr, cymunedau a'r economi yng Nghymru.
Gydag etholiad Senedd 2026 ar y gorwel, bydd y Gynhadledd yn archwilio beth sydd ei angen ar y sector gan Lywodraeth nesaf Cymru i ffynnu ac i gyflawni ei llawn botensial.
Diddordeb mewn dysgu? Ymunwch â ni yn ein Noson Agored - digwyddiad Recriwtio Athrawon Mwyafrif Byd-eang a gynhelir mewn partneriaeth ag Addysgwyr Cymru ac EYST.
Dewch i ddysgu mwy am ein cyrsiau addysgu Cynradd ac Uwchradd, cwrdd ag academyddion a chyn-fyfyrwyr a gofyn eich cwestiynau.
Meddwl neud cais am gwrs TAR yng Nghymru? Eisiau awgrymiadau a thriciau i’ch helpu gyda’r cais a chyfweliad? Mae Addysgwyr Cymru yma i helpu!
Ymunwch â ni am weithdy rhad ac am ddim lle byddwch yn cael awgrymiadau ar gyfer eich proses ymgeisio a chyfweld TAR.
Darganfyddwch fwy am astudio gradd israddedig ym Met Caerdydd! Ymhlith y graddau sydd ar gael mae Addysgu Cynradd, Addysg Blynyddoedd Cynnar, Astudiaethau Addysg Gynradd, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig a Gwaith Ieuenctid a Chymunedol.
Os hoffech hysbysebu eich digwyddiad, cysylltwch ag information@educators.wales