MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £23,151 pro rata y flwyddyn (cyfwerth â £12 yr awr)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Awst, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwywyr Cymorth Dysgu

Coleg Penybont

Cyflog: Graddfa Gyflog 1: £23,151 pro rata y flwyddyn (cyfwerth â £12 yr awr)

Cynorthwywyr Cymorth Dysgu

Disgrifiad o'r swydd Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

30 awr yr wythnos ac yn ystod y tymor yn unig (36.6 wythnos y flwyddyn)
Cyfnod Penodol hyd at 31ain Awst 2025

Graddfa Gyflog 1: £23,151 pro rata y flwyddyn
(Cyflog Gwirioneddol yn seiliedig ar weithio 36.6 wythnos y flwyddyn - £15,146 y flwyddyn)
(cyfwerth â £12 yr awr)

Rydym yn chwilio am Gynorthwywyr Cymorth Dysgu i ymuno a’n tîm ADY brwdfrydig.

Byddwch yn cefnogi dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol, yn y dosbarth ac mewn ardaloedd dysgu eraill, yn cynorthwyo gyda’u gofynion lles corfforol ac emosiynol a chymorth dysgu.

Gall hyn cynnwys darparu cymorth ymarferol, gofal personol, cymryd nodiadau, darllen, annog / ysgrifennu a / neu roi cefnogaeth i gymryd nodiadau. Gyda chymhwyster Lefel 2 perthnasol, bydd gennych brofiad o weithio gyda phobl gydag anghenion dysgu ychwanegol/anableddau corfforol a all fod angen cefnogaeth a chymorth i gyflawni eu potensial llawn.

Bydd gennych sgiliau TG, cyfathrebu a chymryd nodiadau da a bod yn barod i weithio’n hyblyg.

Mae cofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (CGA) yn ofyniad ar gyfer y rolau hyn ac mae angen iddo fod yn ei le cyn y gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddechrau.

I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a bydd rhaid i chi gofrestru fel Gweithiwr Cymorth Dysgu Addysg Bellach gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.